Mae amheuon dros ffitrwydd pump o chwaraewyr Caerdydd wrth iddyn nhw baratoi i herio Reading yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno.
Cafodd Anthony Pilkington anaf yn chwarae dros Weriniaeth Iwerddon yn ystod yr wythnos, ac fe chwaraeodd Mats Daehli dros Norwy er bod ganddo ef broblemau anafiadau ar hyn o bryd.
Ni chwaraeodd Bruno Ecuele Manga o gwbl i Gabon, a dim ond newydd ddychwelyd o Trinidad y mae’r ymosodwr Kenwyne Jones.
Ond fe ddywedodd rheolwr Caerdydd Russell Slade ei fod yn disgwyl i’r pedwar ohonynt, a’r golwr David Marshall, fod yn ffit ar gyfer y gêm.
Wynebau cyfarwydd
Bydd amddiffynnwr Caerdydd Sean Morrison a’r ymosodwr Adam Le Fondre yn wynebu eu cyn-glwb os ydyn nhw’n chwarae heno, ar ôl i’r ddau symud o Reading dros yr haf.
Mae disgwyl i gyn-amddiffynnwr Caerdydd dde Chris Gunter hefyd wynebu ei gyn-glwb, ac fe allai’r Cymry Hal Robson-Kanu a Jake Taylor fod yn nhîm Reading hefyd.
Digon cymysglyd yw tymor y ddau dîm hyd yn hyn, gyda Chaerdydd yn 12fed a Reading yn 14eg yn y Bencampwriaeth.
Ac mae Russell Slade yn disgwyl gêm ddigon agored rhwng y ddau.
“Mae Reading yn dîm sydd yn hoffi ymosod,” meddai Slade. “Maen nhw’n taflu dynion ymlaen, yn chwarae ar dempo uchel ac yn hoffi sgorio.
“Dydyn nhw ddim cystal oddi cartref ag y maen nhw gartref, ond mae goliau yn eu tîm gyda phobl fel Glenn Murray a Simon Cox, felly maen nhw’n fygythiad.”