Mae’r Gweilch yn gorfod gwneud heb 20 o’u chwaraewyr ar gyfer y trip i Ulster heno, oherwydd anafiadau a’r gemau rhyngwladol.

Y clo Lloyd Peers fydd yn gapten ar y tîm yn Stadiwm Kingspan, gyda llawer o enwau cyfarwydd yn dychwelyd ar ôl i’r prif hyfforddwr Steve Tandy roi cyfle i’r bechgyn ifanc yng Nghwpan LV.

Mae canolwyr Cymru Ashley Beck ac Andrew Bishop yn chwarae gyda’i gilydd yng nghanol cae, gyda Sam Davies a Martin Roberts yn cadw’u lle fel yr haneri.

Daw Dan Evans nôl mewn fel cefnwr, gyda Tom Grabham yn cymryd lle ar un asgell ac Aisea Natoga ar y llall.

Y bachwr Sam Parry a’r clo Rynier Bernardo yw’r unig flaenwyr sydd yn cadw’u lle o’r pymtheg a ddechreuodd yn erbyn y Dreigiau yng Nghwpan LV yr wythnos diwethaf.

Pwynt i’w brofi

Yr wythnos hon fe gadarnhaodd y Gweilch y bydd Morgan Allen a Jonathan Spratt allan tan y flwyddyn nesaf ar ôl i’r ddau gael llawdriniaethau ar anafiadau.

Ond yn ôl Steve Tandy, mae’n rhaid i’r chwaraewyr sydd wedi eu dewis nawr brofi eu bod yn haeddu eu lle yn sgil absenoldebau eraill.

“Rydyn ni’n gwybod bod mynd yno gydag ugain chwaraewr ar goll yn gwneud pethau’n anoddach, ond mae’n rhaid i ni edrych y tu hwnt i hynny,” meddai Tandy.

“Mae’n rhaid i’r bois gymryd cyfrifoldeb dros beth rydyn ni’n ceisio ei gyflawni, a sylwi bod hwn yn gyfle gwych i wneud argraff dda yn y crys.”

Tîm y Gweilch: Dan Evans, Tom Grabham, Andrew Bishop, Ashley Beck, Aisea Natoga, Sam Davies, Martin Roberts; Duncan Jones, Sam Parry, Dmitri Arhip, Lloyd Peers (capt), Rynier Bernardo, James King, Sam Lewis, Dan Baker

Eilyddion: Matthew Dwyer, Marc Thomas, Cai Griffiths, Rory Thornton, Ifereimi Boladau, Ieuan Jones, Tom Habberfield, Hanno Dirksen