Regan King
Fe fydd Regan King yn dechrau yn y canol i’r Scarlets heno am y tro cyntaf ers gêm agoriadol y tymor, wrth i Fois y Sosban herio Glasgow mewn gornest sy’n cael ei dangos ar raglen
Scrum V ar BBC 2.

Mae King wedi bod allan ers dros ddeufis gydag anaf i linyn y gâr, ond mae nawr yn holliach ac fe fydd yn chwarae ochr yn ochr â Gareth Owen yn y canol.

Bydd Harry Robinson a Michael Tagicakibau ar yr esgyll i’r Scarlets, ac mae’r cefnwr Steff Evans yn cadw’i le ar ôl perfformio’n dda dros yr wythnosau diwethaf yng Nghwpan LV.

Mae’r ddau Shingler, Aaron a Steven, nôl yn y tîm yn ogystal â’r blaenasgellwr John Barclay fydd yn wynebu ei gyn-glwb.

Glasgow sydd yn ail yn y Pro12 ar hyn o bryd ar ôl ennill chwech o’u saith gêm, tra bod y Scarlets yn seithfed ar ôl tair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal.

Tîm y Scarlets: Steffan Evans, Harry Robinson, Regan King, Gareth Owen, Michael Tagicakibau, Steven Shingler, Aled Davies; Rob Evans, Kirby Myhill, Peter Edwards, George Earle, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay (capt).

Eilyddion: Emyr Phillips, Phil John, Jacobie Adriaanse, Rob McCusker, Rory Pitman, Rhodri Williams, Rhys Priestland, Steffan Hughes.