Tegid Siôn Richards
Tegid Siôn Richards sy’n pendroni a yw’r Undeb Rygbi’n canolbwyntio gormod ar chwaraewyr hŷn Cymru …
Yn ôl Gareth Davies, cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru, ceisio cadw chwaraewyr ifanc yng Nghymru yw’r flaenoriaeth.
Dywedodd URC fod angen diogelu a chadw’r chwaraewyr ifanc addawol yn rhanbarthau Cymru, ac maen nhw’n credu fod hyn yn bwysicach na cheisio denu’r sêr profiadol nôl i Gymru.
Ond yr wythnos hon fe gawsom y newyddion mai Dan Lydiate yw’r diweddaraf i ddychwelyd i Gymru.
Ar ôl treulio bron i flwyddyn a hanner yn Ffrainc, bydd Lydiate yn chwarae i un o glybiau Cymru ar ôl y gemau rhyngwladol.
Mae awgrymiadau bod ei gyd-Gymry yn Racing Metro – Mike Phillips, Jamie Roberts a Luke Charteris – yn gobeithio dychwelyd hefyd, felly pwy fydd nesaf?
Apêl dod gartref
Yn amlwg, mae arian yn un o’r prif atyniadau, ac yn rheswm pam nad yw clybiau Cymru’n gallu brwydro i gadw’r chwaraewyr yn erbyn mawrion Lloegr a Ffrainc.
Ond gyda Sam Warburton wedi arwyddo cytundeb cenedlaethol gydag URC ar ddechrau’r flwyddyn, mae dod ’nôl i Gymru i chwarae rygbi yn syniad apelgar i’r chwaraewyr hyn bellach.
Mae hyn felly, yn peri i ni gwestiynu datganiad URC, a gofyn a ydyn nhw wir yn canolbwyntio ac yn rhoi sylw digonol ar y chwaraewyr ifanc, neu dim ond ceisio meithrin y chwaraewyr profiadol.
Er hyn, mae’n rhaid nodi roedd Adam Jones, ar ddechrau’r tymor, heb dîm. Er ei holl brofiad fel chwaraewr ar lefel rhyngwladol, doedd e ddim yn ymarfer ag unrhyw dîm ym myd rygbi tan i’r Gleision gynnig lle.
Dewis saff Gatland?
Mae Warren Gatland wedi lleisio’i farn wrth URC ar sefyllfa’r Cymry oddi Cartref, ac wedi gofyn iddynt gynnig y cytundebau deuol hyn i hyd at 12 o chwaraewyr er mwyn iddynt aros yng Nghymru.
Byddai Gatland yn hoffi cwblhau’r trafodaethau mewn amser i Gwpan Rygbi’r Byd flwyddyn nesaf yn Lloegr.
Gydag hyn mewn golwg, cafodd carfan tîm rygbi Cymru ei gyhoeddi’r wythnos ddiwethaf. Allan o’r 34 a gafodd eu dewis, dim ond pum chwaraewr sydd yn 21 mlwydd oed neu’n iau.
Er yr holl bwyslais yr wythnos hon wrth Gareth Davies ac URC ar gadw’r chwaraewyr ifanc a cheisio’u meithrin hwy, ydi hyn yn gam yn ôl?
Erbyn heddiw, dim ond angen mynd i un o gemau’r rhanbarthau sydd eisiau i chi wneud er mwyn bod yn dyst i’r amrywiaeth o dalent ifanc sydd ar gael yng nghlybiau Cymru.
Wrth ystyried y dyfodol agos, a thwrnament Cwpan Rygbi’r Byd mewn llai na blwyddyn, a oes lle i ambell un o’r chwaraewyr addawol ifanc yng ngharfan Cymru eleni?
Methu cyfle gyda Morgan
O ystyried cyhoeddiad carfan Cymru ar gyfer gemau rhyngwladol yr hydref wythnos ddiwethaf, a’r datganiad gan gadeirydd URC yr wythnos hon, byddai rhai nawr yn awgrymu bod gormod o bwyslais ar gadw’r chwaraewyr hŷn.
Ydi’r flaenoriaeth gyda’r rhai sy’n serennu i Gymru ar hyn o bryd, a dim digon o bwyslais felly ar y chwaraewyr ifanc sydd yng Nghymru?
Gyda’r rhanbarthau’n awyddus i ymafael â’r chwaraewyr profiadol sydd yn gobeithio dychwelyd i Gymru drwy’r cytundebau deuol, mae hyn yn codi marc cwestiwn am ddyfodol y chwaraewyr ifanc.
Un dyn a ddisgleiriodd yn y gêm ‘Probables v Possibles’ nôl ym mis Mai oedd Matthew Morgan, sydd bellach yn gyn-chwaraewr y Gweilch.
Mae e erbyn hyn wedi symud i chwarae i dîm Bryste, sydd nawr yn chwarae ym Mhencampwriaeth yr RFU sydd islaw Uwch Gynghrair Aviva Lloegr.
Seren ddisglair y dyfodol tybed, sydd wedi llithro drwy ddwylo Undeb Rygbi Cymru?
Efallai bod hi’n syniad i URC ymestyn y cytundebau deuol i’r chwaraewyr ifanc, a chael mwy o gytundebau tebyg ar draws rygbi Cymru, er mwyn eu meithrin hwy trwy’r rhanbarthau a’u datblygu i fod yn sêr y dyfodol.
Gallwch ddilyn Tegid ar Twitter ar @tegidsion13.