Dylan Siôn Jones
Dylan Siôn Jones sy’n pendroni a yw’n bryd meddwl am wyliau i Ffrainc yn 2016 eto …

Haul poeth, y gwin yn llifo a croissant neu ddau yn haul poeth Ffrainc – dyna sydd yng nghefn meddwl llawer iawn o gefnogwyr Cymru ar hyn o bryd.

Gyda saith pwynt allan o naw, mae cynffonau bob cefnogwr pêl-droed Cymru wedi codi.

Mae hanes yn ein herbyn ni’n sicr, gyda siom y gorffennol yn erbyn Rwmania a Rwsia dal yn ffres ym meddyliau’r cefnogwyr er bod gêm Rwsia dros 10 mlynedd yn ôl, a dros 20 mlynedd wedi pasio ers gêm Rwmania.

Dyma’r ddau dro agosaf i dwrnament pêl-droed rhyngwladol mae cefnogwyr Cymru wedi bod ers 1958.

Yr unig dro arall oedd Pencampwriaeth Ewrop yn 1976, oedd yn cael ei chwarae ar fformat cartref ac oddi cartref, ond nes i chi gyrraedd y rownd gynderfynol doedd twrnament ddim yn cyfri fel un pwysig iawn, yn wahanol i’r dyddiau hyn.

Cyfle’r gwledydd bach

Ond gyda’r system newydd mewn lle ble mae dau dîm yn mynd drwodd yn syth, a’r trydydd safle yn mynd i’r gemau ail gyfle, mae’r brwdfrydedd yn awr wedi cynyddu.

Mae modd gweld hynny yn chwarae’r gwledydd bychain fel Cymru a Gogledd Iwerddon, gan eu bod nhw’n teimlo rŵan fod gwir siawns ganddyn nhw o gyrraedd Ewro 2016, yn enwedig ar ôl dechrau da.

Er ein bod ni’n wlad mor fach, mae Cymru wedi cynhyrchu rhai o chwaraewyr mwyaf dawnus y byd dros y blynyddoedd – dw i’n teimlo fel bod gweddill y byd wedi’u hamddifadu o’r cyfle i weld rhai o’n chwaraewyr mwyaf disglair ni fel Ryan Giggs, Ian Rush, Neville Southall, Mark Hughes ar y lefel uchaf o bêl-droed rhyngwladol!

A fydd Gareth Bale, Aaron Ramsey, Joe Allen a Jonathan Williams yn cael eu hadio i’r rhestr yma o enwau gyrhaeddodd yr un twrnament?

Na. Mi fyswn i’n rhoi fy mhen ar y bloc a dweud y bydd Cymru’n siŵr o gyrraedd twrnament rhyngwladol o fewn yr wyth mlynedd nesaf – os nad y tro hwn, yn sicr yn y blynyddoedd sydd i ddod.

Mae gan lawer o’n chwaraewyr ni sydd yn y categori oedran rhwng 24 a 28 oed dros, neu’n agos at, hanner cant o gapiau i’w gwlad yn barod, sydd yn brofiadol iawn ar unrhyw safon.

Bale yn 75% o’r gwaith

Dw i’n credu’n gryf bod Chris Coleman wedi ennill hyder a ffydd y garfan yn ddiweddar, a ffydd llawer o gefnogwyr hefyd.

Fe es i i wrando arno’n siarad yng Nghlwb Pêl-droed Porthmadog lai na blwyddyn yn ôl, ac mae’n rhaid canmol ei ddawn siarad wrth iddo gynhyrfu’r cefnogwyr, gan siarad am lawer o bynciau yn onest a chydag angerdd.

Pan ofynnwyd iddo ai sicrhau bod Gareth Bale yn troi i fyny oedd hanner y frwydr, ei ateb o oedd “Na, mae o fwy fel 75%”!

Yn sicr fe fydd Cymru’n elwa o gael cymaint o chwaraewyr yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair ac mewn timau llwyddiannus yn y Bencampwriaeth, nid dim ond i ni fel tîm ond hefyd i beri gofid i’r gwrthwynebwyr.

Roedd ‘na adegau pan oedd gwrthwynebwyr o Ddwyrain Ewrop a oedd ella heb glywed llawer am Gymru na’u chwaraewyr yn edrych ar y garfan a gweld enwau fel Steve Evans (Wrecsam), Darren Barnard (Grimsby Town) a Gareth Roberts (Tranmere), a ddim yn teimlo o dan lawer o fygythiad.

Ond gyda’r garfan rŵan mae enwau fel Gareth Bale (Real Madrid), Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Allen (Lerpwl), Ashley Williams (Abertawe), Ben Davies (Spurs) a mwy i gyd yn gwneud iddyn nhw feddwl eto.

Breuddwydio am y Rush nesa’

Yr unig bryder sydd gen i ydi’r diffyg dewis o flaenwyr sydd gan Gymru, yn enwedig gyda Sam Vokes wedi anafu, a Simon Church ddim yn chwarae’n gyson i Charlton.

Mae’n bryder mawr, ac mae dibynnu ar Gareth Bale am y goliau i gyd a hwnnw’n ddyn sy’n cael ei wylio gan ddau chwaraewr ac yn cael ei gicio’n ddidrugaredd am 90 munud yn rhoi pwysau gormodol arno, sydd ddim o fudd o gwbl.

Yn y byd delfrydol mi fysa chwaraewr ifanc 20 oed gyda llygaid am gôl fel oedd gan Ian Rush yn ei ddyddiau yn rhoi’r eisin ar y gacen i mi fel cefnogwr.

Ond fy neges i bob cefnogwr ydi i gadw’r ffydd, a chefnogi’r hogiau a’r rheolwr 100%. Mae ‘na dair gêm anodd o’n blaenau, gyda dwy gêm yn erbyn Gwlad Belg a thrip i Israel.

Ffrainc yn 2016 … a feiddiwch chi freuddwydio?