Fe fydd yr Archentwr Lucas Gonzalez Amorosino’n chwarae i’r Gleision am y tro cyntaf fory pan fyddan nhw’n herio Munster ym Mharc yr Arfau BT Sport, gyda’r gic gyntaf am 5.15yp.

Mae’r cyfarwyddwr rygbi Mark Hammett wedi gwneud saith newid i’r tîm a enillodd yn erbyn Rovigo yng Nghwpan Her Ewrop y penwythnos diwethaf.

Bydd Adam Jones yn dychwelyd i’r rheng flaen ar ôl iddo beidio â chael ei ddewis yng ngharfan Cymru ar gyfer gemau’r hydref.

Ac fe allai’r prop Taufa’ao Filise ddod yn gyfartal â record T Rhys Thomas am chwarae’r nifer fwyaf o gemau i’r Gleision os yw’n dod oddi ar y fainc am ei 182fed gêm.

‘Munster yn sialens’

Yn ogystal ag Adam Jones mae’r bachwr Matthew Rees a’r prop Sam Hobbs yn dychwelyd i reng flaen y Gleision.

Mae’r ddau glo hefyd wedi cael eu newid, gyda Jarrad Hoeata a Filo Paulo’n ymuno â’i gilydd yn yr ail reng.

Yr unig newid arall ymysg yr olwyr heblaw am Amorosino yw Gavin Evans, sydd yn dod i mewn yng nghanol cae.

“Rydyn ni’n dod i mewn i’r gêm yn erbyn Munster ar ôl dwy fuddugoliaeth pwynt bonws yn Ewrop, ond dydyn ni’n sicr ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau ar ôl y buddugoliaethau yna,” meddai Mark Hammett.

“Roedd chwarae’n Ewrop yn gadael i ni adeiladu hyder, momentwm a gweithio ar ein strwythurau a’n systemau. Yr her nawr yw trosglwyddo hynny i’r Pro12 yn erbyn tîm pwerus fel Munster.

“Mae Munster yn dîm heriol sydd yn cario’r bêl yn bwerus, yn rhedeg atoch chi’n galed ac yn dechnegol gryf. Mae’n rhaid i ni fod ar ein gorau o’r cychwyn achos fe gawn ni’n herio ar draws y cae.”

Tîm y Gleision: Rhys Patchell, Richard Smith, Adam Thomas, Gavin Evans, Lucas Amorosino, Gareth Davies, Lloyd Williams; Sam Hobbs, Matthew Rees (capt), Adam Jones, Jarrad Hoeata, Filo Paulo, Josh Turnbull, Josh Navidi, Manoa Vosawai.

Eilyddion: Kristian Dacey, Thomas Davies, Taufa’ao Filise, Macauley Cook, Ellis Jenkins, Lewis Jones, Garyn Smith, Dan Fish.