Fe fydd Rhys Williams yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y Pro12 pan fydd y Dreigiau yn herio Ulster yn Ravenhill nos yfory.
Fe arwyddodd y canolwr 26 oed ar fenthyg am fis o Gwins Caerfyrddin yn gynharach yn y mis, ac fe fydd yn gwisgo’r crys rhif 13 wrth i’r tîm weld saith newid.
Ymysg y newidiadau i’r rheng ôl mae cyn-chwaraewr Cymru a’r Llewod Andy Powell yn dychwelyd i’r tîm.
Dim ond tri o’r Dreigiau sydd i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol gyda Chymru – Taulupe Faletau, Hallam Amos a Tom Prydie.
Camu lan
Dywedodd Williams ei fod yn barod i gymryd y cam mawr o chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru i herio Ulster, un o dimau mwyaf Ewrop, gyda’r gic gyntaf draw yn Iwerddon am 7.35 nos yfory.
“Mae’r cam lan o’r Premiership i Gwpan Prydain ac Iwerddon yn un mawr, a bydd e r’un peth eto [o’r Gwpan i rygbi rhanbarthol] ond fi’n edrych ymlaen,” meddai Rhys Williams.
“Bydd e’n sialens fawr yn Ulster ond allai ddim aros a fi’n teimlo’n barod.
“Fi’n hoffi meddwl am fy hun fel canolwr sy’n mynd amdani ac yn gwneud digon o daclo, fi wedi chwarae 12 rhan fwyaf o fy ngyrfa ond fe allai chwarae fel 13 hefyd.”
Mae saith newid wedi’i wneud gan Lyn Jones o’r tîm a gollodd i Newcastle yng Nghwpan Her Ewrop yr wythnos diwethaf, gan gynnwys y cefnwr Jason Tovey a’r asgellwr Aled Brew.
Mae dau newid yn y rheng flaen gyda Boris Stankovich a Thomas Rhys Thomas yn dod i mewn, ac mae Powell a James Benjamin hefyd yn cymryd eu lle yn y rheng ôl.
Tîm y Dreigiau: Jason Tovey, Matthew Pewtner, Rhys Williams, Ashley Smith, Aled Brew, Angus O’Brien, Richie Rees; Boris Stankovich, Thomas Rhys Thomas, Dan Way, James Thomas, Rynard Landman (capt), Lewis Evans, James Benjamin, Andy Powell.
Eilyddion: Elliot Dee, Owen Evans, Lloyd Fairbrother, Scott Andrews, Ollie Griffiths, Jonathan Evans, Geraint Rhys Jones, Ashton Hewitt.