John Barclay
Fe fydd y blaenasgellwr John Barclay’n gapten ar y Scarlets am y tro cyntaf pan fyddan nhw’n herio Zebre ym Mharc y Scarlets nos fory am chwech.

Yr Albanwr fydd yn arwain y tîm yn absenoldeb Scott Williams a Ken Owens. Mae Williams ar ddyletswydd rhyngwladol gyda Chymru ac Owens wedi anafu.

Oherwydd yr absenoldebau rhyngwladol hynny mae’r prif hyfforddwr Wayne Pivac wedi gorfod gwneud saith newid i’r tîm a drechodd Caerlŷr yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop yn eu gêm ddiwethaf.

Barclay’n wythwr

Mae’r newidiadau hefyd wedi gweld Barclay, sydd heb ei ddewis yng ngharfan yr Alban ar gyfer gemau’r hydref, yn symud i safle’r wythwr.

Daw’r cefnwr ifanc Steffan Evans, y canolwr Gareth Owen a’r maswr Steven Shingler i mewn i safleoedd yr olwyr yn lle Liam Williams, Scott Williams a Rhys Priestland.

Yn y pac mae Kirby Myhill a Peter Edwards yn dod i mewn i’r rheng flaen, gyda’r clo George Earle a’r blaenasgellwr James Davies hefyd yn cael eu dewis.

Roedd disgwyl y byddai’r Scarlets yn gorfod gwneud nifer o newidiadau, gydag wyth o’r garfan yn nhîm Cymru a deg arall yn cael triniaeth am anafiadau gan gynnwys Regan King, Jordan Williams a Rob McCusker.

Ond fe fyddan nhw dal yn hyderus o ennill gartref yn erbyn Zebre, sydd ond wedi ennill un o’u chwe gêm yn y Pro12 eleni ac yn un ar ddegfed yn y tabl.

Mae’r Scarlets ar y llaw arall wedi ennill dwy, colli dwy a chael dwy gêm gyfartal, sydd yn gosod nhw’n seithfed yn y tabl.

Tîm y Scarlets: Steffan Evans, Harry Robinson, Michael Tagicakibau, Gareth Owen, Kristian Phillips, Steven Shingler, Aled Davies; Rob Evans, Kirby Myhill, Peter Edwards, George Earle, Johan Snyman, Aaron Shingler, James Davies, John Barclay (capt).

Eilyddion: Ryan Elias, Phil John, Jacobie Adriaanse, Sion Bennett, Rory Pitman, Rhodri Davies, Josh Lewis, Steffan Hughes.