Ar ôl haf trafferthus i rygbi yng Nghymru a welodd gytundeb yn cael ei daro rhwng yr Undeb Rygbi a’r rhanbarthau o’r diwedd, mae’n bryd tro’i sylw at y peth pwysicaf – y materion ar y cae.
Mae’r tymor yn dechrau nôl y penwythnos yma i ranbarthau Cymru yn y Pro12, ac yn ogystal â chwilio am lwyddiant yn y gynghrair fe fyddwn nhw i gyd hefyd yn rhan o gystadlaethau Ewropeaidd newydd.
Blogwyr rygbi golwg360 – Rhidian Jones, Owain Gruffudd, Illtud Dafydd ac Owain Gwynedd – sydd wedi dod at ei gilydd, felly, i ddarogan y tymor i ddod.
Enillwyr y Pro 12
Rhidian Jones – Leinster am y trydydd tro’n olynol. Maen nhw’n daer, yn ddisgybledig, a hyd yn oed heb BOD maen nhw’n llawn sêr fel Seán O’Brien, Cian Healy a Rob Kearney.
Owain Gruffudd – unwaith eto, rwy’n disgwyl i Ulster a Glasgow gael tymor cryf yn y Pro 12, ond anodd, ar hyn o bryd, yw gweld unrhyw un ond Leinster yn bachu’r tlws gyda’u carfan gref.
Illtud Dafydd – Ulster. Ar bapur rhanbarth cryfaf Iwerddon, hyd yn oed heb O’Driscoll. Ruan Pienaar nôl, Les Kiss yn lle David Humphreys, Jared Payne yn y canol, a Darren Cave a Franco van der Merwe yn eilydd perffaith i Johann Muller.
Owain Gwynedd – dwi’n rhagweld un o ddeuddeg tîm yn ennill y Pro12 tymor yma … jocian wrth gwrs, ond y tebygolrwydd ydi mai un o’r Gwyddelod fydd yn fuddugol, mwy na thebyg Leinster. Gwyliwch allan am Glasgow.
Cwpan Ewrop
A fydd Leigh Halfpenny'n dathlu gyda Toulon?
RJ – tîm Toulon yn heneiddio, ac mae’r ffeinal yn Twickenham ac mae’n oes pys ers i glwb o Loegr ennill, felly naill ai Saracens neu Gaerlŷr aiff â hi.
OGruff – hen bryd i Clermont gipio prif wobr Ewrop, ar ôl bygwth ers nifer o flynyddoedd bellach, yn enwedig gyda chwaraewyr megis Bonnaire, Nalaga, Parra, Fofana a Jonathan Davies.
ID – os ydyn nhw’n dianc o’u grŵp yna Clermont, ond bydd Toulon yn fygythiad iddynt. Bydd eu cefnogwyr yn disgwyl gwell na hunllef Twickenham llynedd.
OGwyn – anodd gweld unrhyw un yn cystadlu efo Toulon, wrth ystyried dyfnder anferthol y garfan ac yna arwyddo Drew Mitchell, James O’Connor a Leigh Halfpenny.
Cwpan Sialens Ewrop
RJ – bydden i’n dweud un ai Gleision Caerdydd neu Gaerloyw.
OGruff – mae’n anodd anwybyddu Stade Francais a Gleision Caerdydd, sydd wedi cryfhau yn arw dros yr haf, ond o gynghrair Aviva Lloegr ddaw’r enillwyr. Caerwysg i fygwth, ond Caerloyw aiff a hi.
ID – ffordd mewn i Gwpan Ewrop i Gaerloyw. Digon o ddyfnder yn y garfan o dan arweiniad David Humphreys, gyda James Hook a Billy Twelvetrees yn y crys rhif 12.
OGwyn – James Hook a Richard Hibbard yn ennill y gwpan gyda Chaerloyw gobeithio!
Cwpan LV
RJ – un o glybiau Lloegr sydd â charfan fawr, felly Northampton.
OGruff – anodd darogan gan fod y carfannau wastad yn fwy gwan ar gyfer y gemau hyn. Unwaith eto, dwi ddim yn teimlo mai un o dimau Cymru fydd yn mynd a hi, felly dwi am fynd am Gaerfaddon.
ID – er eu bod nhw yng Nghwpan Ewrop eleni mae digon o ddyfnder gan Sale, fel Caerwysg llynedd, i ennill. Caerfaddon ddim yn bell ohoni a gobeithio bydd un o ranbarthau Cymru yn y rownd gynderfynol.
OGwyn – dim clem, gan fod pawb yn chwarae timau arbrofol, felly mi wnâi fynd am Harlequins.
Enillwyr Uwch Gynghrair Cymru
A fydd Pontypridd yn dathlu eto eleni?
RJ – Pontypridd. Ond mae Llanymddyfri wedi cael dechrau gwych i’r tymor, a dwi’n disgwyl i’r Porthmyn gael tymor da.
OGruff – cafodd Cwins Caerfyrddin dymor da iawn llynedd, ond mae nifer o’u chwaraewyr yn absennol yn ystod y tymor efo tîm Saith Bob Ochr Cymru. Llanymddyfri â photensial, ond Pontypridd fydd yn mynd a hi unwaith eto.
ID – Pontypridd – eto!
OGwyn – does yr un tîm wedi gallu cyffwrdd Pontypridd a tydi Geraint John, yn ei ail dymor fel hyfforddwr, ddim am adael hynny newid.
Chwaraewr i serennu yn y Pro 12
RJ – Rory Pitman, wythwr newydd y Scarlets. Mae’n weddol ifanc, yn fawr, mae’n gallu trin y bêl, ac mae ‘da fe bwynt i brofi.
OGruff – Pob math o enwau yn neidio allan, ond dwi’n teimlo mai Nikola Matawalu o Glasgow fydd chwaraewr y gystadleuaeth ar ddiwedd y tymor.
ID – Gyda phwysau o fod yn gapten dros Gaeredin oddi ar ei ysgwyddau, Dave Denton. Hyfforddwr newydd gyda’r Alban, Vern Cotter, wedi datblygu gêm sawl rheng ôl Clermont yn y gorffennol.
OGwyn – gobeithio y bydd peidio bod yng nghysgod Jonathan Davies yn golygu fod Scott Williams yn cymryd yr awenau a datblygu fod yn un o ganolwyr gorau’r byd.
Prif Sgoriwr Ceisiau y Pro 12
Mae Aled Brew yn ôl i'r Dreigiau
RJ – Hanno Dirksen o’r Gweilch os yw’n cadw’n iach. Mae e’n bwerus ac yn glou, ond wedi cael trafferthion gyda’i ben-glin a ‘sdim rheidrwydd welith e’r bêl gan fod pac y Gweilch yn wannach eleni.
OGruff – mae gan George Watkins, asgellwr newydd y Gleision, recordio sgorio anhygoel dros ei gyn-glwb Bryste, a dwi’n ffyddiog y bydd yn parhau i groesi’r llinell wen i’w glwb newydd.
ID – mae Aled Brew nôl o Ffrainc wedi iddo greu’r ceisiau i Takudzwa Ngwenya. Prif arf tîm Lyn Jones ac os yw’n aros yn holliach, tymor llawn o’i flaen heb alwad gan Rob Howley.
OGwyn – yn hanesyddol mae Tim Visser o Gaeredin a Tommie Bowe gydag Ulster yn agos i frig y tabl sgorwyr ceisiau, wnâi ddim betio yn eu herbyn nhw i fod yna eto.
Tymor y Dreigiau
RJ – dim dal gydag Andy Powell nôl, ond ar ôl recriwtio’n dda fe fydd hi’n anodd eu curo yn Rodney Parade eleni. Gorffen yn wythfed yn y Pro12 ac esgyn y tu hwnt i grŵp y Cwpan Her.
OGruff – Byrne, Brew a Powell i roi hwb a phrofiad i’r garfan, ond parhau i fod y tîm gwaelod o ran timau Cymru mae gen i ofn. Nawfed yn y gynghrair, ond siawns am ail yn eu grŵp yng Nghwpan Sialens Ewrop.
ID – trydydd ymysg rhanbarthau Cymru yn y Pro12. Ail yn eu grŵp Ewropeaidd.
OGwyn – da gweld Aled Brew yn ôl ar yr asgell a Lee Byrne yn dychwelyd i Gymru. Fe fyddwn nhw’n gwella’r tîm ond mae dal amheuon ynglŷn â chryfder y blaenwyr a dyfnder mewn ambell safle, felly seithfed.
Tymor y Gweilch
Sut wnaiff y Gweilch eleni?
RJ – mae’r pac wedi ei flingo o sêr megis Adam Jones, Ian Evans, Ryan Jones a Richard Hibbard, a dy’n nhw ddim wedi denu fawr o chwaraewyr yn eu lle. Tymor caled i fois ochr Treforys o’r dre, gorffen yn seithfed.
OGruff – siomedig fydd hi i’r Gweilch eleni hefyd. Mae nifer o’u chwaraewyr profiadol – a gorau – wedi symud ymlaen i glybiau eraill, tra bod y lleill wedi cryfhau eu carfannau. Seithfed yn y Pro12 a gorffen yn drydydd yn eu grŵp yn Ewrop.
ID – Profiad yn eu rhoi nhw’n gyntaf ymysg y rhanbarthau ac yn y gemau ail gyfle. Ail yn eu grŵp Ewropeaidd y tu ôl i Northampton, gan guro Racing Metro ar y Liberty.
OGwyn – tîm mwyaf cyson Cymru ers sefydlu’r rhanbarthau, a phedwerydd yn y Pro12 eto eleni ond dim ond o drwch blewyn.
Tymor y Scarlets
RJ – mae’r pac ifanc addawol bellach dymor yn aeddfetach, ac mae partneriaeth Priestland gyda Gareth Davies, Regan King a Scott Williams yn dod â dŵr i’r dannedd. Trydydd yn y Pro12, a byddan nhw’n gwneud yn wych os wnawn nhw esgyn o’u grŵp yng Nghwpan Ewrop.
OGruff – Jon Davies yn golled anferthol i’r Scarlets, ac yn fwlch na all Regan King ei lenwi, ond wedi cryfhau safle’r wythwr a’r asgell. Methu allan ar safle yn y pedwar uchaf, gan orffen yn chweched yn y Pro12 a gorffen ar waelod grŵp caled yn Ewrop.
ID – pedwerydd ymysg y rhanbarthau, ond dim is na degfed. Gwaelod eu grŵp yn Ewrop, lwcus i ennill un gêm – ddylen nhw ganolbwyntio ar y gynghrair.
OGwyn – chwaraewyr dylanwadol wedi gadael a dychwelyd, a thîm ifanc sy’n dal i ddatblygu ac efo sylfaen cryf iawn o dymor dwytha. Gwthio am le yn y pedwar uchaf ond ella yn disgyn mymryn yn brin, i bumed.
Tymor y Gleision
Yw hi'n ddechrau ar gyfnod newydd i'r Gleision?
RJ – wedi recriwtio’n dda yn y pac gydag Adam Jones a Craig Mitchell yn ogystal â’r maswr Gareth Anscombe. Olwyr pwerus hefyd, felly pedwerydd yn y Pro12, a chyrraedd ffeinal Cwpan Her Ewrop.
OGruff – wedi cryfhau’n wych dros yr haf, gyda balans o chwaraewyr ifanc addawol, chwaraewyr Cymraeg profiadol ac ambell i wynebu cyffrous o dramor. Pedwerydd yn y Pro 12 a chyrraedd rownd y chwarteri, o leiaf, yng Nghwpan Sialens Ewrop.
ID – ail ymysg y rhanbarthau, dim gemau ail gyfle. Ail yn eu grŵp Ewropeaidd, gyda Gwyddelod Llundain ar y top. Brwydr agos tan rowndiau olaf y Pro12 ar gyfer ail safle Cymraeg Cwpan Ewrop.
OGwyn – y Gleision yn symud ymlaen am unwaith ac yn arwyddo chwaraewyr dylanwadol. Chweched iddyn nhw eleni.
Chwaraewr Cymraeg y Flwyddyn
RJ – Gareth Davies i gipio rhif naw Cymru oddi wrth Mike Phillips a’i gadw ar gyfer Cwpan y Byd.
OGruff – roedd Gareth Davies yn addawol iawn allan yn Ne Affrica dros yr haf, a methu stopio sgorio dros y Scarlets llynedd. Serennu dros ei ranbarth a’i wlad eto eleni.
ID – mae Eli Walker nôl o anaf, yn uffernol o glou dros 20 medr ac wrth newid cyfeiriad, gyda Bishop a Beck tu fewn iddo fe gaiff e ddigon o bêl yn y sianeli llydan.
OGwyn – disgwyl gweld y cawr George North yn aeddfedu ymhellach ac yna dinistrio timau’r AVIVA Premiership a gobeithio’r Chwe Gwlad hefyd.
Chwaraewr Ifanc Cymraeg y Flwyddyn
RJ – Dan Baker yr wythwr.
OGruff – dwi’n disgwyl i Macauley Cook barhau i wneud argraff dros y Gleision, a gwthio ei hun i garfan Cymru. Mynd at ei waith yn dawel, ond yn effeithiol.
ID – gyda Sam Warburton yng ngharfan Cymru, a Mac Cooke yn symud i’r ail reng, dwi’n disgwyl gweld pethau gan Ellis Jenkins. Fe gaiff ddigon o amser ar y cae, ac nid ond yn yr LV!
OGwyn – mae Jordan Williams yn chwaraewr dawnus a chyffroes, ac yn opsiwn gwahanol iawn i’r asgellwyr a chefnwyr sydd gan Gymru yn barod.
Un Dymuniad am y Tymor
Dymuniadau gorau i Owen Williams
RJ – ein bod ni’n cael canolbwyntio ar rygbi da ac nid politics sâl.
OGruff – dymuniad oddi ar y cae dwi’n gobeithio amdano eleni, a hynny yw newydd da i ganolwr ifanc y Gleision, Owen Williams, yn dilyn ei anaf.
ID – Cymru i guro De Affrica ar 19 Tachwedd. Dial!
OGwyn – bod Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau yn cyd-dynnu er lles rygbi Cymru. Mae’r ddwy ochr wedi bod ar fai am annibendod y ddwy flynedd ddiwethaf.