Owen Williams
Mae Owen Williams yn parhau i wella’n araf o anaf difrifol i’w wddf a’i gefn, a ddioddefodd mewn twrnament rygbi deg bob ochr ym mis Mehefin.
Anafodd Williams fertebra ei wddf a madruddyn ei gefn, anafiadau difrifol oedd yn golygu derbyn triniaeth frys yn Singapore, ble cynhaliwyd y twrnament.
Cafodd ei gludo nôl i Gymru ar ddechrau mis Gorffennaf ac mae wedi bod yn derbyn triniaeth mewn Uned Wella Niwrolegol ac Anafiadau Asgwrn Cefn.
Mae bellach yn medru treulio cyfnodau byr yn eistedd mewn cadair olwyn, sy’n golygu ei fod yn medru gadael Ysbyty Rookwood, Caerdydd am gyfnodau byr.
Hefyd mae wedi dechrau defnyddio’r gampfa yn yr ysbyty i gryfhau a gwella hanner uchaf ei gorff.
Ers yr anaf mae dymuniadau gorau iddo wedi cael eu hanfon o bob cwr o’r byd rygbi, gyda’r Gleision ac eraill yn defnyddio’r hashnod #StayStrongForOws ar Twitter ac yn codi arian at ei achos.
Dywedodd y Gleision eu bod nhw a’r teulu yn diolch eto i bawb sydd wedi cefnogi’r ymgyrch ac sy’n parhau i ddangos cefnogaeth i Owen Williams.