Yr ail reng Lloyd Peers fydd yn arwain Y Gweilch heno yng ngêm gyntaf y Pro 12 yn erbyn Treviso ar y Liberty yn Abertawe.
Hwn fydd y tro cyntaf i Peers arwain y rhanbarth yn y Pro 12 er bod ganddo beth profiad o fod yn Gapten yng nghwpan yr LV a hefyd wrth arwain Cymru yn y gwahanol oedrannau. Fe wnaeth Peers arwyddo cytundeb o dair blynedd gyda’r Gweilch yn gynharach eleni.
‘‘Mae’n anrhydedd fawr cael arwain y Gweilch allan ar y Liberty. Mae’n braf bod nôl yn chwarae eto ar ôl colli diwedd y tymor diwethaf oherwydd anaf ac mae’r anrhydedd o fod yn Gapten yn arbennig i mi yn bersonol. Mae cael y cyfle hwn ar y lefel yma yn fraint ac yr wyf yn edrych ymlaen i’r gêm Nos Wener,’’ meddai Lloyd Peers.
‘‘Mae yna ddigon o brofiad yn y tîm a byddaf yn trafod gyda chwaraewyr fel Andrew Bishop, Dan Biggar a Joe Bearman. Mae Alun Wyn Jones wedi bod o gymorth mawr i mi yn ystod yr wythnosau diwethaf,’’ ychwanegodd Peers.
Mae Peers yn arweinydd naturiol yn ôl y Prif Hyfforddwr Steve Tandy.
‘‘Mae’n chwaraewr proffesiynol arbennig o dda, mae’n arwain o’r blaen ac yn barod i fynegi ei farn. Mae parch iddo o fewn y garfan. Yr ydym wedi gwylio ei ddatblygiad yn ystod y blynyddoedd ac fe fydd yn gapten arbennig i’r Gweilch.’’
Yn ôl Peers, sydd wedi ei eni a’i fagu o fewn ffiniau’r rhanbarth, mae’n bwysig cael dechrau da i’r tymor a’i gwneud yn achlysur arbennig i’r cefnogwyr.
Tîm y Gweilch
Olwyr – Dan Evans, Jeff Hassler, Andrew Bishop, Josh Matavesi, Eli Walker, Dan Biggar a Rhys Webb.
Blaenwyr – Nicky Smith, Scott Baldwin, Aaron Jarvis, Lloyd Peers (Capten), Rynier Bernardo, Joe Bearman, James King a Dan Baker.
Eilyddion – Sam Parry, Duncan Jones, Daniel Suter, Tyler Ardron, Morgan Allen, Martin Roberts, Sam Davies a Hanno Dirksen.
Bydd yr ornest yn fyw ar BBC2 Cymru heno.