Neil Taylor yn siarad ddoe
Mae Neil Taylor wedi cyfaddef fod y sefyllfa wedi dod yn yr haf ble y byddai’n rhaid iddo ef neu Ben Davies adael Abertawe.

Davies oedd y dewis cyntaf am y rhan fwyaf o’r tymor diwethaf i’w glwb, gyda Taylor yn gorfod gwneud y tro ar y cyfan â chwarae gêmau cwpan.

Symudodd Davies i Tottenham yn yr haf am £10m, gan adael i Taylor ennill ei le’n ôl yn gefnwr chwith i’r Elyrch.

‘Angen chwarae’

“Roedd hi’n teimlo yn yr haf y byddai un ohonon ni’n gadael,” meddai’r cefnwr 25 oed.

“Roedd y ddau ohonon ni’n teimlo y gallen ni chwarae a bod angen i ni chwarae, felly yn y diwedd dyna ddigwyddodd a nawr mae’n rhaid i’r ddau ohonom ni roi’n pennau lawr a chwarae pêl-droed.

Dim ond ar ôl i Taylor gael anaf gwael yn ôl yn 2012 y cafodd Davies ei gyfle cyntaf i’r Elyrch, a’r anaf yna wnaeth i Taylor sylweddoli ei bod hi’n anochel y byddai’n rhaid i un ohonyn nhw adael yn y pen draw.

“O’m hamser i wedi anafu cwpl o flynyddoedd yn ôl mi wnes i sylwi pan ydych chi’n ffit ac yn medru chwarae, bod angen i chi chwarae, ac mae hynny’n hanfodol i unrhyw bêl-droediwr.”

Brwydr ryngwladol

Dyw’r ddau ddim yn cystadlu am le yn nhîm Abertawe bellach, ond mae Taylor yn cyfaddef ei fod dal yn debygol o fod mewn brwydr â Davies am safle cefnwr chwith Cymru am weddill ei yrfa ryngwladol.

Bydd rheolwr Cymru Chris Coleman yn dewis rhwng y ddau ar gyfer y gêm ragbrofol yn erbyn Andorra nos Fawrth nesaf.

Gyda’r cefnwyr chwith Paul Dummett a Declan John hefyd yn y garfan ryngwladol, mae’n bosib mai dyma’r safle ble mae gan Gymru’r dyfnder mwyaf o chwaraewyr yn cystadlu am un safle.

Ac fe fydd yn rhaid i Taylor ddod i arfer â’u cael nhw o gwmpas gan fod Davies (21 oed), Dummett (22) a John (19) i gyd un ieuengach nag ef.

Dyfnder y garfan

Ond er ei fod yn cyfaddef fod ganddo frwydr i gadw’i safle, ar ôl dechrau pum gêm ddiwethaf Cymru, mae Taylor yn mynnu fod hyn yn dystiolaeth o garfan ryngwladol ddyfnach a chryfach.

“Byddai’n rhaid i chi ofyn i’r rheolwr, ond dwi wrth fy modd yn dod i [garfan] Cymru, dw i eisiau chwarae dros fy ngwlad ac rwy’n mwynhau fy mhêl-droed ar y funud,” meddai.

“Ond i mi, fe fydd cystadleuaeth ar lefel clwb a gwlad am weddill fy ngyrfa mwya’ tebyg, dyna sut mae pethau’n gweithio bellach, yn enwedig gyda Chymru.”

‘Ar y lefel uchaf’

“Mae bron pob un o’n chwaraewyr ni’n chwarae ar y lefel uchaf, sydd ddim fel yr oedd hi ychydig flynyddoedd yn ôl,” meddai Neil Taylor.

“Felly mae cystadleuaeth drwy’r tîm nawr i weld pwy sy’n chwarae ym mhob safle, felly mae’n rhaid i chi fod ar eich gorau ar lefel clwb a gobeithio cewch chi’ch dewis i’ch gwlad.”