Gareth Thomas
Mae cyn gapten rygbi Cymru wedi rhybuddio y gallai’r drefn newydd o gytundebau rhyngwladol achosi rhagor o chwaraewyr i adael Cymru.

Fe fyddai chwaraewyr nad ydyn nhw’n cael y deg cytundeb newydd sydd ar gael yn llawer mwy tebtg o adael, meddai Gareth Thomas.

Dyw hi ddim yn glir eto pa ddeg chwaraewr fydd yn cael y cytundebau dwbl sydd ar y cyd rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r rhanbarthau.

‘Neges anghywir’

Yn ôl Gareth Thomas, fe fyddai methu â chael un o’r cytundebau yn rhoi’r neges anghywir i chwaraewyr eraill.

“Mae’n grêt i’r deg ond beth mae hynna’n ei ddweud wrth chwaraewyr eraill a’r dalent sydd ar y ffordd,” meddai mewn podlediad i’r BBC.

“Tawn i’n un o’r rheina a bod cynnig yn dod o’r ochr arall i’r ffin, fydden i’n ei gyrmyd ar egwyddor.”