Fe fydd un o gyn-bêl-droedwyr mwyaf blaenllaw Cymru, Malcolm Allen yn trafod ei frwydr yn erbyn alcohol mewn rhaglen arbennig ar S4C heno.

Roedd Allen yn un o sêr Cymru yn yr 1980au a’r 1990au ac fe fu’n lais cyfarwydd fel sylwebydd ar Radio Cymru ers bron i ddau ddegawd.

Ond fe fydd Malcolm Allen: Cyfle Arall yn datgelu manylion am fywyd preifat y ffigwr cyhoeddus 47 oed o Ddeiniolen yng Ngwynedd, gan gynnwys dod yn agos i’r dibyn pan oedd ei yfed ar ei waethaf.

Cafodd y rhaglen ei chynhyrchu gan Rondo, y cwmni oedd wedi cynhyrchu’r rhaglen am fywyd Gary Speed wedi’i farwolaeth.

Ar ei orau, roedd Malcolm Allen yn sgorio’n gyson i dimau Watford, Aston Villa, Norwich, Millwall a Newcastle, ac fe enillodd 14 o gapiau dros Gymru.

Ond fe ddaeth ei yrfa i ben oherwydd anaf i’w ben-glin, ac yntau ond yn 28 oed.

Dyna pryd y dechreuodd ei frwydr yn erbyn alcoholiaeth, sydd hefyd yn cael ei thrafod yn ei hunangofiant, ac fe chwalodd ei briodas.

Dywedodd Malcolm Allen wrth gofio nôl: “Fy nau gariad mewn bywyd ar y pryd oedd yfed a chwarae pêl-droed ac roeddwn yn methu delio hefo’r ddau yn y diwedd.

“Roedd un yn cymryd drosodd wrth y llall.

“Doedd o ddim yn fy nghymeriad i ddod allan a gofyn am help.

“Roeddwn i mewn cocoon lle mae pawb yn ‘tough’.

“Ti mewn bywoliaeth lle ti ddim yn siarad am betha’ fel hyn. Fe ddylen i wedi bod yn ddigon dewr i ddod allan a dweud na allwn ddelio hefo hyn.”

Bydd rhai o enwau mawr y byd chwaraeon yng Nghymru a thu hwnt hefyd yn ymddangos yn y rhaglen, gan gynnwys Kevin Keegan, Mick McCarthy, Iwan Roberts a’r hyfforddwr seiclo Syr David Brailsford, gafodd ei fagu yn yr un pentref ag Allen.

Bydd y rhaglen Malcolm Allen: Cyfle Arall yn cael ei darlledu heno am 9.30yh ar S4C.