Owain Tudur Jones yng nghrys Abertawe
Ychydig ddiwrnodau wedi iddo gael ei ryddhau gan glwb Hibernian, daeth cadarnhad bod y Cymro Owain Tudur Jones wedi arwyddo i Falkirk.

Mae cyn-chwaraewr canol-cae Abertawe yn ymuno â’r clwb sydd yn chwarae ym Mhencampwriaeth yr Alban, ar gytundeb byr.

Ar ei dudalen Twitter, dywedodd: “Roedd fy 48 awr o fod yn ddi-waith yn anodd iawn ac yn llawn straen. Ces i gwrw heb deimlo’n euog, ac fe chwaraeais i golff yn Gleneagles. Pwy sy angen Jeremy Kyle?”

Mae disgwyl iddo wisgo crys Falkirk am y tro cyntaf pan fyddan nhw’n herio Queen of the South yr wythnos nesaf.

Ni fydd yn cael chwarae yng Nghwpan Petrofac yn Stranraer yr wythnos hon, gan ei fod e eisoes wedi cynrychioli Hibs y tymor hwn yn y gystadleuaeth honno, pan gollon nhw o 2-1 yn erbyn Rangers yn Ibrox.