Illtud Dafydd
Gyda dyfodiad yr haf mae pennau rygbi Hemisffer y Gogledd yn troi at ddiwedd tymor, traethau gwynion ac ambell i ddiod galetach na Protein Shake a Lucozade. Ochr arall y geiniog yw hi ar y cyfan i rygbi saith bob ochr, gyda chystadlaethau’n rhedeg yn wythnosol tan ddiwedd mis Awst.

Er hyn, mae cylchdaith saith bob ochr yr Undeb Rygbi Rhyngwladol ar y lôn ers mis Hydref a’r penwythnos diwethaf daeth tymor y chwaraewyr, sydd bron i gyd yn broffesiynol, i ben gyda chymal Llundain yn Stadiwm Twickenham.

Roedd torf record byd o dros 70,000 o gefnogwyr yno ar y dydd Sadwrn ac ar ddydd Sul i weld Seland Newydd yn cipio’r cymal a’r gylchdaith yn ei chyfanrwydd gyda 180 pwynt, 28 o flaen De Affrica (gan gofio mai 22 pwynt sydd i’w hennill wrth gipio cwpan pob cymal).

Magu chwaraewyr …

Hyfforddwr y Crysau Duon yw Gordon Tietjens, sydd wedi bod wrth y llyw ers 1994. Mae rygbi saith bob ochr yn ddull traddodiadol a llwyddiannus o feithrin talent y gamp 15 bob ochr ar lefel ryngwladol o flaen torfeydd enfawr (Twickenham fel y soniais, dros 60,000 yn Hong Kong, ac o leiaf 50,000 yn Cake Tin Wellington).

Cyn cymal Llundain y gylchdaith sydd wedi’i noddi gan HSBC roedd Tietjens yn siarad ar raglen The Rugby Club ar Sky Sports gan enwi sawl cyn-aelod o’i garfan saith bob ochr sydd erbyn heddiw wedi ennill capiau rhyngwladol dros dîm pymtheg dyn Y Crysau Duon.

Cewri’r byd rygbi fel Christian Cullen ac Mils Muliaina, ond i Tietjens yr un sy’n sefyll allan yw’r mynydd o ddyn, Jonah Lomu.

Gan edrych ar Gymru mae mewnwr y Gleision, Lloyd Williams, eu canolwr rhyngwladol Cory Allen a’r olwr amryddawn James Hook i gyd wedi ennill profiad yn chwarae rygbi saith bob ochr rhyngwladol.

… a gwledydd

Nid chwaraewyr yn unig y mae’r gamp yn ei feithrin, ond cenhedloedd rygbi cyfan. Eleni fe orffennodd Canada’n chweched yn nhabl y gylchdaith (Roedd Cymru yn 11fed) ac mae datblygiad tîm fel Kenya (seithfed yn y tabl) yn aruthrol.

Noddir y tîm gan gwmni awyren cenedlaethol ag fe gynhelir twrnament cenedlaethol Kenya yn stadiwm Nairobi gyda 60,000 o dorf. Mwy na beth oedd yno i brofi Dydd y Farn yn ein stadiwm genedlaethol ni, heb sôn am Dwrnament saith bob ochr Foster’s mis Medi diwethaf.

Mae rygbi saith bob ochr yn denu torfeydd a chwaraewyr newydd i rygbi fel camp, boed hynny’n saith bob ochr ei hun fel yn yr UDA a chyn athletwyr trac neu chwaraewyr yr NFL, rygbi 15 dyn neu hyd oed rygbi’r gynghrair.

Mae’n rhoi cyfle i gefnogwyr a chwaraewyr o bedwar ban byd i brofi rygbi agored, atyniadol o’r safon uchaf posib. Mae rhai yn ei weld fel bygythiad i’r cam pymtheg dyn, yn enwedig gyda saith bob ochr yn cael ei gynnwys ar fwydlen chwaraeon gemau Olympaidd Rio de Janeiro yn 2016. Yn bersonol, mae unrhyw fath o gyhoeddusrwydd a sylw i rygbi, yn enwedig ar lefel ryngwladol, o fudd i gamp y bel siâp wy.

Ni fydd Sbaen yn rhan o dimau craidd y gylchdaith yr IRB flwyddyn nesaf, gyda Siapan yn cymryd eu lle wedi i’r Sbaenwyr orffen ar waelod y tabl.

Gallwch ddilyn Illtud ar Twitter ar @IlltudDafydd.