Rhidian Jones
Rhidian Jones sy’n rhagweld diwedd caled yn Ne Affrica i dymor siomedig y Cymry…
Tra bod pedwar o glybiau mawr Ewrop yn brwydro yn rownd gynderfynol Cwpan Heineken y penwythnos yma mae chwaraewyr rhanbarthau Cymru yn cael penwythnos bant. Yn wir mae sawl penwythnos bant o flaen ein chwaraewyr ni dros y chwe wythnos nesa.
Mae rownd gynderfynol y RaboDirect Pro12 ar benwythnos 16 Mai, ffeinal Cwpan Heineken ar 24 Mai, a ffeinal y Pro12 ar 31 Mai – a chwaraewyr rhanbarthau Cymru yn debygol o fod adre yn gwylio’r gemau ar y bocs.
Cymaint fydd y segurdod fel bod Warren Gatland eisiau cynnal gêm gystadleuol, 1980aidd, o fewn carfan Cymru er mwyn iddo gael gwell syniad o bwy sy’n haeddu lle ar y daith i Dde Affrica ym mis Mehefin.
Rhanbarthau siomedig
Mae wedi bod yn dymor hynod siomedig i bedwar rhanbarth Cymru. Maen nhw wedi methu am yr ail flwyddyn yn olynol i fynd trwyddo i 16 olaf Cwpan Heineken, a does yr un tîm o Gymru ym mhedwar uchaf y Pro12.
Mae’r Gweilch yn y pumed safle ar hyn o bryd ac yn gobeithio y bydd Glasgow yn colli yn erbyn Treviso a Zebre er mwyn rhoi’r pedwerydd safle iddyn nhw. Go brin, yn anffodus.
Bwriad y rhanbarthau oedd crynhoi grym a gallu’r dwsin o glybiau traddodiadol, cryf oedd gennym ni yng Nghymru er mwyn ffurfio timau fyddai’n gallu cystadlu gyda goreuon Ewrop.
Ar wahân i ambell fuddugoliaeth unigol nodedig – megis y Gleision eleni yn curo pencampwyr y llynedd, Toulon – nid yw’r rhanbarthau wedi llwyddo i gynnal safon uchel yn null taleithiau Iwerddon.
Ar ben hyn mae’r rhanbarthau wedi eu gwanhau yn arw gan waedlif o dalent i Loegr a Ffrainc.
Anfantais ariannol
Trwy drugaredd mae ffurf cwpanau Ewrop y flwyddyn nesaf wedi ei setlo, a bydd rhanbarthau Cymru yn derbyn rhyw £1.7m y flwyddyn y tymor nesaf gan y trefnwyr Ewropeaidd, o gymharu ag £1.1 eleni. Ond bydd cyllid clybiau Lloegr a Ffrainc yn cynyddu’n sylweddol hefyd, ar ben yr arian teledu maen nhw’n ei gael am eu cynghreiriau cartref.
Mae’n edrych yn debyg y bydd Undeb Rygbi Cymru yn cyfrannu rhagor o arian tuag at y rhanbarthau pan fydd y ddwy ochr yn dod i gytundeb yn y pen draw. Hen bryd ddyweda i.
Mae gormod o sêr megis George North, Leigh Halfpenny, Dan Lydiate, Jonathan Davies, Owen Williams ac Ian Evans wedi eu colli’n ddiweddar o ranbarthau Cymru.
Arian yw’r foronen fwyaf sy’n eu denu nhw siŵr o fod, ond hefyd mae’r cyfle i chwarae mewn gemau dwys o flaen torfeydd mawr.
Gemau mawr ddylai fod nod rhanbarthau Cymru – gorffen ym mhedwar uchaf y gynghrair a mynd trwyddo i’r chwarteri yn Ewrop. Mae angen tanio’r gêm ranbarthol a denu torfeydd i gemau cystadleuol o bwys.
Bydd arian nawdd ac arian o gystadlaethau yn mynd a dod ond mae angen cefnogwyr niferus er mwyn cynnal ein rhanbarthau yn y tymor hir, ac os mai mis Mai segur sy’n eu hwynebu, fel eleni, ddôn nhw ddim.
De Affrica – lle caled
Er y penwythnosau segur i lawer, byddai chwaraewyr Cymru wedi bod yn hapus i gael haf i ffwrdd eleni, neu daith haws beth bynnag.
Flwyddyn ar ôl taith y Llewod, a blwyddyn cyn Cwpan y Byd, mae Cymru’n mynd ar y daith galetaf bosib. Sdim rhyfedd bod Sam Warburton wedi dweud bod ei anaf yn fendith.
Mae gan wledydd ymrwymiadau rhyngwladol y mae’n rhaid eu cyflawni, ond mae dwy gêm brawf yn Ne Affrica a gêm ychwanegol yn erbyn yr Eastern Province Kings i gynhesu (neu gleisio!) yn mynd i fod yn fwrn.
Mae’r garfan eisoes yn edrych yn fregus o achos anafiadau – Warburton, Leigh Halfpenny a Richard Hibbard allan ohoni, gydag ansicrwydd ynghylch ffitrwydd Scott Williams sydd heb chwarae ers y Chwe Gwlad, ac mae Justin Tipuric yn debygol o gael llawdriniaeth i drwsio’i ysgwydd.
Nid De Affrica yw’r lle i fynd gyda rhyw getyn tîm, ond mae gan nifer o chwaraewyr bwynt i brofi i Gatland a ni’r cefnogwyr ar ôl Chwe Gwlad siomedig a thymor rhanbarthol tila.
Bydd cyfle gan ambell chwaraewr ifanc i roi pwysau ar yr enwau mawr rhyngwladol sydd, yng ngeiriau Shane Williams yr wythnos yma, wedi mynd braidd yn hunanfodlon a rhy sicr o’u lle.
A byddai ennill gêm brawf yn Ne Affrica am y tro cyntaf erioed yn hwb enfawr i Gymru wrth i ni nesáu at Gwpan y Byd y flwyddyn nesa.