Mae hyfforddwr dros dro Abertawe wedi dweud na fydd yn ystyried ei ddyfodol ei hun nes y bydd y clwb yn ddiogel yn yr Uwch Gynghrair.
Er i’r fuddugoliaeth yn erbyn Newcastle sicrhau ei bod yn debygol y bydd yr Elyrch yn aros ym mhrif gynghrair Lloegr, mae Gary Monk yn credu nad yw’r gwaith wedi ei gwblhau.
‘‘Pan fydd y clwb yn sicr o aros i fyny dyna pryd y byddaf yn medru trafod y dyfodol gyda’r cyfarwyddwr,’’ meddai.
Tair gêm sy’n weddill o’r tymor i’r Elyrch, gan ddechrau gyda’r gêm yn erbyn Aston Villa yfory. Y ddwy gêm arall yw oddi cartref yn Southampton ac i ffwrdd yn Sunderland.
Bydd y blaenwr Michu yn colli’r gêm yfory gan fod ei bigwrn wedi chwyddo ac mae wedi dychwelyd i Sbaen i weld meddyg y tîm cenedlaethol.