Proffil y Clwb
Enw: Tîm Rygbi Ieuenctid Crymych
Cae: Parc Lloyd Thomas
Lliwiau: Llwyd a choch tywyll
Rheolwr: Gary Phillips
Hyfforddwyr: Kevin Phillips & Tudor Harries
Fe fydd y rhai craff yn eich mysg yn gweld bod Tîm yr Wythnos yn troedio hen dir yr wythnos yma – ond os yw’r clwb yn un cyfarwydd dyw’r un peth ddim yn wir am y tîm.
Oherwydd tîm rygbi ieuenctid Crymych sydd yn hawlio’r sylw gennym ni’r wythnos hon, wrth iddyn nhw baratoi am ffeinal Cwpan Sir Benfro yn erbyn Penfro heno.
Mae’r tîm ieuenctid yn sicr yn manteisio ar seiliau cadarn y clwb yng Nghrymych, gyda’r tîm cyntaf ar hyn o bryd yn Adran Un yng Nghynghrair y Gorllewin a’r Ail Dîm hefyd yn cryfhau.
Dan reolaeth Gary Phillips mae’r ieuenctid wedi cael tymor hynod o lwyddiannus ac eisoes wedi ennill eu cynghrair gyda thair gêm yn weddill heb golli drwy’r tymor.
Fe gyrhaeddon nhw rownd gynderfynol Cwpan Cymru cyn colli o 35-7 i Benallta ac fe fu tîm Ysgol y Preseli, sydd yn cynnwys llawer o chwaraewyr y tîm, hefyd yn anlwcus wrth golli 19-17 i Lanishen yn ffeinal Cwpan Ysgolion Cymru.
Coroni tymor gwych
Yn ôl hyfforddwr Crymych fe fyddai buddugoliaeth yng Nghwpan Sir Benfro heno’n coroni tymor gwych i’r tîm.
“Mae’r tymor wedi bod yn wych i ni,” meddai hyfforddwr y tîm a chyn-fachwr Cymru a Chastell Nedd, Kevin Phillips. “Mae pawb yn ffit [ar gyfer heno] a phawb yn edrych ymlaen.
“Mae tîm Penfro’n eithaf corfforol yn y blaenwyr ond fi’n siŵr allwn ni gystadlu gyda nhw. Fe chwaraeon ni yn eu herbyn nhw yn gynharach yn y tymor ac ennill 17-0, ac ry’n ni wedi gwella ers hynny.”
A chyda thîm mor addawol mae Kevin Phillips yn disgwyl y bydd rhai ohonyn nhw’n llwyddo i wneud eu marc yn y timau hŷn y tymor nesaf.
“Ry’n ni’n colli tua chwech o’r bois tymor nesaf, a dwi’n siŵr y bydd rhai ohonyn nhw’n chwarae dros yr ail dîm,” meddai Phillips. “Falle bydd un neu ddau hyd yn oed yn y tîm cyntaf.”
Bydd y gic gyntaf rhwng Tîm Ieuenctid Crymych a Thîm Ieuenctid Penfro am 7.15yh heno yng nghae Hendy-gwyn.
Carfan Ieuenctid Crymych: Guto Davies, Jake Jenkins, Ryan Bean, Josh Macleod, Aaron Tompkinson, Carwyn James, Carwyn Vaughan, Dan Griffiths, Dion Gibby, Dylan Phillips, Elgan Wilson, Guto Harris, Ifan James, Ifan Phillips, Isaac Martin, Keiran Machin, Dylan Thomas, Llyr Edwards, Luke Freebury, Mark Tamlin, Michael Ryan, Osian Evans, Owen Edwards, Scott Jenkins, Sion Thomas, Steffan Howells, Tomos Davies, Tomos Evans, Trystan Phillips, Llyr Davies, Llyr Evans