Bydd Pontypridd yn chwarae yn erbyn Leinster A yn rownd gyn-derfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon ar Heol Sardis yfory am 2:30.
Y wobr i’r buddugwyr yw lle yn y rownd derfynol a chael chwarae’r ffeinal gartref. Fe wnaeth Pontypridd gyrraedd y rownd gyn-derfynol mewn grŵp anodd a churo Môr Ladron Cernyw 16-14 yn y chwarteri. Fe wnaeth Leinster A gyrraedd y rownd gyn-derfynol trwy ennill pob un o’u gemau grŵp a churo Munster A 47-15 yn rownd yr wyth olaf.
Mae nifer o chwaraewyr Pontypridd yn dioddef o anafiadau a gallai hynny gael effaith ar y canlyniad. Mae’r canolwr Gavin Dacey a’r bachwr Huw Dowden wedi dioddef anafiadau yn ddiweddar ac yn colli’r gêm yn ogystal â’r rhai sydd wedi bod allan yn dioddef o anafiadau tymor hir fel yr asgellwr Chris Clayton, y mewnwr Tom Williams, y prop Pat Palmer, y blaenasgellwr Jake Thomas ac Alex Webber.
Mae Adam Thomas, capten tîm saith bob ochr Cymru, wedi gwella ar ôl dioddef anaf i’w ysgwydd ac yn dechrau yn safle’r maswr. Hefyd mae’r prop Keiron Jenkins yn dychwelyd i’r tîm yn ogystal a Simon Humberstone a’r clo Chris Dicomidis sy’n dychwelyd i chwarae i’r clwb ar ôl bod ar ddyletswydd gyda carfan y Gleision.
Fe fu Pontypridd yn Dîm yr Wythnos ar golwg360 yn ddiweddar.
Tîm Pontypridd
Olwyr – Geraint Walsh, Lewis I Williams, Adam Thomas, Dafydd Lockyer (Capten), Owen Jenkins, Simon Humberstone a Joel Raikes.
Blaenwyr – James Howe, Liam Belcher, Keiron Jenkins, Craig Locke, Chris Dicomidis, Wayne O’Connor, Rhys Shellard a Dan Godfrey.
Eilyddion – Lloyd Williams, Dai Flanagan, Aled Summerhill, Aled Morris, Jordan Sieniawski, Owen Sheppeard, Chris Phillips.