Illtud Dafydd
Illtud Dafydd sy’n edrych ar obeithion Ponty o gipio ‘Coron Driphlyg’ hanesyddol …

Yn ystod y pythefnos diwethaf mae Clwb Rygbi Pontypridd wedi cyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Prydain ac Iwerddon, curo Aberafan i gyrraedd ffeinal Cwpan SWALEC, ac wedi sicrhau pum pwynt o wahaniaeth rhyngddyn nhw a Chwins Caerfyrddin ar frig Uwch Gynghrair y Principality.

Nid yw’r sôn am “Trebl” hanesyddol yn ddisylwedd, ac yn ôl pôl piniwn ar wefan y clwb yn gofyn “Yr Uwch Gynghrair, Cwpan SWALEC, Cwpan Prydain ac Iwerddon – beth yw gobeithion Ponty o gipio coron driphlyg unigryw?” fe atebodd 78% o’r rhai a gwestiynwyd gydag “wrth gwrs”.

Nid yw’r llwyddiant aruthrol y mae Ponty wedi profi yn y blynyddoedd diwethaf (Cipio’r Gynghrair a Chwpan SWALEC llynedd) wedi dod heb boen neu alar – mae hunangofiant cyn-hyfforddwr Pontypridd, Lyn Howells, ac effaith cyflwyno’r rhanbarthau yn dyst i hyn.

Mae clwb cryfaf cymoedd y De yn enghraifft o glwb sydd wedi goresgyn anawsterau a newid i fod yn glwb lled-broffesiynol. Nhw sydd â’r mwyaf o gefnogwyr yn dod i’w gwylio, gyda chyfartaledd o 1,178 person ym mhob gêm ar Heol Sardis.

Maent yn dangos ffydd mewn chwaraewyr ifanc lleol o dan fagwraeth hyfforddwyr lleol fel Paul John, Gareth Wyatt a Geraint Lewis. Maent yn dod i dermau gyda’u sefyllfa gan werthu crysau a nwyddau’r clwb ar eu gwefan.

Ac yn ogystal â gosod esiampl gyda’u presenoldeb dwyieithog ar gyfryngau cymdeithasol, mae sawl un o’u chwaraewyr wedi chwarae dros y Gleision ac wedi cynrychioli tîm 7-bob-ochr Cymru.

Ymosod cyffrous

Yn yr Uwch Gynghrair  mae’r tîm o Rondda Cynon Taf ond wedi colli tair gêm y tymor yma, y ddiwethaf nos Fercher ar y Gnoll i Gastell-Nedd (ac ond unwaith adref, i Bontycymer ddechrau mis Rhagfyr).

Mae dylanwad hyfforddwr 7-bob-ochr Cymru Paul John i’w weld yn glir, gyda’r tîm wedi sgorio 70 cais yn y gynghrair yn barod, dros dri chais y gêm. Mae cyn-faswr y Gweilch a’r Gleision, Dai Flanagan, wedi sgorio 132 pwynt, tra bod yr olwyr Geraint Williams ac Gavin Dacey wedi sgorio 16 cais yn y gynghrair.

Mae’n gam i unrhyw dîm deithio i Gernyw  a churo’r Môr-ladron (tîm sydd bron a bod yn llawn chwaraewyr proffesiynol ac ond wedi colli unwaith yno eleni) fel y gwnaeth Ponty’n ddiweddar.

Roedd cic gosb y maswr Simon Humberstone gyda dwy funud i chwarae i roi ei dîm 16-14 ar y blaen yn ddigon i sicrhau trydedd fuddugoliaeth Pontypridd yn erbyn timau o Bencampwriaeth Green King IPA.

Yn gynharach yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon fe drechodd y crysau du a gwyn Gymry Llundain ac Albanwyr Llundain yn ogystal â chwalu Academials Caeredin. Bydd tîm ‘A’ Leinster yn teithio i Heol Sardis ar gyfer y rownd gynderfynol ar 26 Ebrill i weld pwy fydd yn cystadlu’r ffeinal.

Gyda gêm bron bob pedwar diwrnod tan ddiwedd y tymor (yn dilyn sawl gohiriad yn gynharach yn y tymor) mae her yn wynebu carfan Paul John. Gydag un ffeinal, un rownd gynderfynol a thair gêm gynghrair i’w chwarae (heb gyfri’r gemau ail gyfle) mae gan gefnogwyr Heol Sardis digon o reswm i gredu yn y Goron Driphlyg.

Gallwch ddilyn Illtud ar Twitter ar @IlltudDafydd.