Proffil y Clwb

Enw: Clwb Pêl-droed Llambed

Cae: Heol y Gogledd

Lliwiau: Du a Gwyn

Cynghrair: Adran Un Cynghrair Ceredigion

Rheolwr: Terry Jones

Mae mis Ebrill yn golygu’i bod yn gyfnod gemau cwpan pwysig – gyda Llanrug a Phontypridd yn cipio buddugoliaethau hanesyddol yn ystod yr wythnosau diwethaf.

A heno draw yn Rhaeadr Gwy fe fydd Clwb Pêl-droed Llambed yn herio Ail Dîm Caersws yn ffeinal Cwpan Emrys Morgan, un o dlysau mwyaf nodedig canolbarth Cymru.

Llwyddodd y ddau dîm i sicrhau’u lle yn y ffeinal ar ôl buddugoliaethau gymharol gyfforddus yn y rownd gynderfynol, wrth i Gaersws drechu Llanandras 6-2 a Llambed guro Betws o 2-0.

Felly all Clwb Pêl-droed Llambed ei gwneud hi’n drydedd fuddugoliaeth gwpan yn olynol i Dîm yr Wythnos?

Mae’r tîm wedi bod yn cael tymor digon parchus yn Adran Un Cynghrair Ceredigion, ac ar hyn o bryd yn bumed yn y tabl gyda thair gêm i fynd diolch yn bennaf i goliau Luke Davies-Lovell a Jason Jones.

Mae gan y tîm dal obaith o orffen mor uchel ac ail yn y tabl cyn diwedd y tymor. Ond gyda’r tîm yn saff yng nghanol y tabl mae’r sylw i gyd nawr wedi troi at yr ornest fawr sydd ganddyn nhw heno.

“Dydyn ni heb golli yn ein pum gêm ddiwethaf, felly mae’r paratoadau ‘di mynd yn dda,” meddai rheolwr Llambed Terry Jones.

“Ond ni wedi bod ag un llygad ar y ffeinal. Mae’n gyfle dyw’r bechgyn erioed wedi cael o’r blaen.

“Mae pawb moyn ennill hwn – hwn yw’r prif un. Mae ‘na gwpl ‘da ni, hon fydd eu cyfle olaf nhw i ennill rhywbeth felly bydde fe’n neis gorffen gyda buddugoliaeth.

“Fe aeth cwpl ohonom ni lan i’r semi final i wylio Caersws. Maen nhw’n dîm da, ond mae’n ffeinal felly mae’n rhaid i ni berfformio.”

Llwyddodd Llambed i drechu Borth yn rownd gynderfynol Cwpan Goffa Dai Dynamo Davies yr wythnos diwethaf hefyd, gan olygu y bydd ganddyn nhw ail gyfle i ennill tlws eleni.

Ond mae Terry Jones yn cyfaddef mai’r Emrys Morgan yw prif ffocws y tîm.

“Rydyn ni mewn dau ffeinal, ac fe allwn ni dal ddod yn ail yn y gynghrair – tase’r tîm cyfan mas bob wythnos fe fydden ni wedi cystadlu am lot mwy,” mynnodd Terry Jones.

“Ond rydyn ni’n ddigon hapus bod yn ffeinal yr Emrys Morgan, os enillwn ni hon fe fydd unrhyw beth arall yn fonws.”

Bydd y gic gyntaf rhwng Llambed ac Ail Dîm Caersws am 6.00yh heno yn Rhaeadr Gwy.

Carfan Llambed: Jason Jones, Gareth Williams, Marc Evans, Terry Witts, Luke Davies-Lovell, Steven Lovell, Gareth Edwards, Heulyn Jones, Mark Rivers, Joshua Coombes, James Gudgeon, Luke Hunter, Jason Davies, Martin Hunter, Joe Jenkins