Yn dilyn nifer o adroddiadau yn y wasg a’r cyfryngau ddoe, fe ddaeth cadarnhad gan Reolwr Meddygol Rhanbarth y Gweilch, fod gan Justin Tipuric “broblem gyda’i ysgwydd sydd ddim wedi gwella”.

Meddai Chris Towers mewn datganiad: “Does dim penderfyniad wedi’i wneud eto ynglyn ag unrhyw lawdriniaeth.

“Mae’r ysgwydd yn parhau i boeni Justin ers peth amser,” meddai Chris Towers, “er nad yw’r anaf ar hyn o bryd yn amharu ar ei allu i chwarae.

“Ond, wedi dweud hynny, mae’r anaf yn amharu ar ei allu i ymarfer mor galed ag y bydde fe’n dymuno gwneud yn y gym.

“Fe fydd angen llawdriniaeth arno rhyw bryd,” meddai wedyn. “Ond does dim penderfyniad wedi’i wneud hyd yma ynglyn a phryd y bydd hynny.”