Owain Gwynedd
Mae rhagor o gwestiynau i’w hateb er gwaethaf y cytundeb dros gystadleuaeth Ewropeaidd, yn ôl Owain Gwynedd …
O’r diwedd mae anghydfod dyfodol rygbi Ewrop wedi ei ddatrys. Mae Cwpan Rygbi Pencampwyr Ewrop yn disodli’r Cwpan Heineken ac am gychwyn tymor nesa’.
Roedd o’n ymddangos fel y gyfrinach waethaf sydd wedi bodoli, gan fod pawb yn gwybod strwythur y gystadleuaeth yn barod, strwythur sydd yn cynnwys 20 tîm:
- 6 tîm o Uwch Gynghrair Aviva yn Lloegr
- 6 tîm o’r Top 14 yn Ffrainc.
- 7 tîm o’r Pro 12 – y tîm sydd yn gorffen uchaf o bob gwlad ac wedyn y ddau sydd yn gorffen uchaf yn y tabl allan o’r gweddill. Mae’r ddau dîm yma cael fod o unrhyw wlad. Ar hyn o bryd Y Gweilch a’r Scarlets o Gymru fydd yn cymryd rhan
- 1 tîm trwy gemau ail gyfle
Mae rhywun yn gobeithio y bydd y penderfyniad yma’n sicrhau dyfodol ariannol ein rhanbarthau, ac yna yn annatod yn cadw ein chwaraewyr gora’ yng Nghymru.
Mi fydd y cyfuniad o’r dalent gora’ ar y cae a chystadleuaeth wirioneddol am safleoedd yn y gynghrair yn gallu ysgogi ac annog mwy o gefnogwyr i gefnogi eu rhanbarth.
Camgymeriad y rhanbarthau
Ydi’r uchod am ddatrys problemau rygbi Cymru fel y gobeithiwyd? Ddim eto, oherwydd bod David Moffett dal yn ceisio cael ei ethol fel Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru.
Dyma’r boi wnaeth gyflwyno rygbi rhanbarthol i Gymru ac yn fy marn i wneud bach o smonach o bethau.
I mi mae rhanbarthau yn derm daearyddol sydd yn cynrychioli grŵp o bobl o fewn y diriogaeth yna.
Os hynny, sut oedd troi a chyfuno ambell i glwb i mewn i ‘super-clubs’ yn creu rhanbarth?
Newport Dragons
Llanelli Scarlets
Cardiff Blues
Neath Swansea Ospreys
Yn fy marn i dylsa’r rhanbarthau yma fod wedi bod yn hollol ddiduedd i unrhyw glwb, gan gynrychioli Cymru gyfan. Mae bod yn ddiduedd yn golygu enw a lliwiau a oedd heb gyswllt e.e. Morgannwg (y Gleision presennol) mewn gwyrdd a gwyn.
Mae hwn yn hen ddadl ond yn un pwysig i’w gofio cyn meddwl am ethol David Moffett. Tydi o ddim yn rhywun sydd yn gwneud pethau mae pobl yn cytuno efo – weithiau am y gora’, ond weithiau mae o’n cael pethau yn anghywir.
Maniffesto Moffett
Un peth sydd yn sicr am y Kiwi ydi’i fod o’n gwybod sut i ysgogi sgwrs ac mae o’n werth darllen ei Maniffesto Cymraeg – ia Cymraeg – iaith tydi Undeb Rygbi Cymru erioed wedi ymdrechu ei ddefnyddio.
Mae yna nifer o bwyntiau teilwng yn cael eu gwneud. Ambell un ella dim ond yno i swnio’n dda ac i ddal ein sylw, ond mae o’n ymgeisydd sydd yn cynnig opsiynau ac atebion gwahanol i’r arfer.
Un pwynt sydd yn haeddu sylw cyflym yw’r cytundebau deuol (dual contracts) mae o wedi crybwyll fel y ffordd fodern o gytundebu chwaraewyr. I mi mae hyn yn gwneud synnwyr – synnwyr cyffredin pur.
Fe ddylsa chwaraewr rhyngwladol fod hefo cytundeb gan URC am y cyfnod mae o’n chwarae i Gymru, a chytundeb gan ei ranbarth am y cyfnod mae o’n chwarae i’r rhanbarth. Pam ddylsa rhanbarth orfod talu cyflog i chwaraewr rhyngwladol pan mae o prin yn chwarae iddyn nhw?
Problem Sam ac Adam
Wrth ystyried y pwynt teilwng yma mae rhywun yn dechrau poeni bod URC ar hyn o bryd yn dilyn y llwybr anghywir, llwybr sydd eisoes wedi’i throedio gan Undeb Rygbi Iwerddon a Seland Newydd ddeg mlynedd yn ôl, sef cynnig cytundebau canolog i chwaraewyr. Math o gytundeb hen ffasiwn sydd ddim am weithio yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae Sam Warburton wedi arwyddo ei un o ac yn ôl pob sôn mae’r Gweilch yn hynod o anhapus bod Adam Jones ar fin arwyddo un.
Os ydi rhanbarthau Cymru’n cadw at eu gair fydd Sam nac Adam yn chwarae i’w rhanbarthau gan nad ydynt yn cydnabod y math yma o gytundeb – penderfyniad a wnaeth y rhanbarthau i gyd flynyddoedd yn ôl.
Heb gytundebau canolog ni fydd y rhanbarthau’n medru cyllidebu a chytundebu i gadw’r dalent gora’ yng Nghymru, ac fe fydd mwy o chwaraewyr yn gadael. Y patrwm presennol yn parhau.
Felly, be ydi’r ateb? Cytundebau deuol.
Hyd yn oed os nad ydi David Moffett yn cael ei ethol fel Cadeirydd dwi’n gobeithio y bydd o’n rhan o’r Undeb yn rhywle, er mwyn ysgogi sgwrs a pheidio fod yn ‘yes man’. Rhywun sydd am wthio’r ffiniau a thrio bod yn flaengar.