Caeredin 22–29 Gleision Caerdydd

Cafodd y Gleision ail fuddugoliaeth yn olynol yn y RaboDirect Pro12 wrth drechu Caeredin yn Meggatland nos Wener.

Mae’r tîm o brifddinas Cymru wedi cael tymor hynod siomedig ond mae pethau wedi gwella’n ddiweddar. Cawsant fuddugoliaeth gartref dda yn erbyn Ulster bythefnos yn ôl a dilynwyd hynny gyda buddugoliaeth bwynt bonws ym mhrifddinas yr Alban yr wythnos hon.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar gyda thri phwynt o droed Gareth Davies ond unionodd Jack Cuthbert i’r Albanwyr cyn i’r canolwr cartref, Matt Scott, groesi am gais cyntaf y gêm wedi deg munud, 10-3 wedi trosiad Cuthbert.

Ond y Gleision a gafodd y gorau o’r hanner cyntaf wedi hynny ac roeddynt ar y blaen ar yr egwyl diolch i ddau gais y canolwr rhyngwladol, Cory Allen, a throsiadau Davies. 10-17 wedi’r deugain munud cyntaf.

Rhoddodd cais Dan Fish ar ddechrau’r ail hanner ychydig o olau dydd rhwng y ddau dîm cyn i Tom Brown gau’r bwlch eto gydag ail gais i Gaeredin yn fuan wedyn.

Bu rhaid aros tan bum munud o’r diwedd tan i Dafydd Hewitt sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws i’r Gleision gyda phedwerydd cais, ond roedd digon o amser ar ôl hynny i Cornell du Preez gipio pwynt bonws i’tîm cartref hefyd gyda chais hwyr.

22-29 y sgôr terfynol felly o blaid y Gleision ac mae’r canlyniad yn ddigon i’w codi un lle dros y Dreigiau i’r nawfed safle yn nhabl y Pro12.

.

Caeredin

Ceisiau: Matt Scott 10’, Tom Brown 47’, Cornell du Preez 80’

Trosiadau: Jack Cuthbert 11’, 47’

Cic Gosb: Jack Cuthbert 5’

.

Gleision

Ceisiau: Cory Allen 19’, 35’, Dan Fish 42’, Dafydd Hweitt 75’

Trosiadau: Gareth Davies 19’, 35’, 42’

Cic Gosb: Gareth Davies 3’

Cerdyn Melyn: Bradley Davies 78’