Gweilch 25–19 Leinster
Mae gobeithion y Gweilch o gyrraedd y gemau ail gyfle y RaboDirect Pro12 yn fyw o hyd ar ôl trechu Leinster ar y Liberty nos Wener.
Jeff Hassler sgoriodd unig gais y Cymry yn yr hanner cyntaf ond roedd perfformiad amddiffynnol cryd a chicio cywir Dan Biggar yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth dda yn erbyn y tîm sydd ar y brig.
Roedd gan y Gweilch fantais fain wedi chwarter cyntaf agos gyda Biggar yn llwyddo â dwy gic gosb yn erbyn un Jimmy Gopperth i’r Gwyddelod.
Yna, cafwyd cyfnod cyffrous ar ddiwedd yr hanner cyntaf wrth i’r ddau dîm groesi am gais yr un yn y munudau olaf.
Croesodd yr asgellwr o Ganada, Jeff Hassler, i’r Gweilch i ddechrau yn dilyn dwylo da Biggar a Richard Fussell, cyn i brop Leinster, Cian Healy, dirio wedi sgarmes symudol nodweddiadol gan y Gwyddelod.
13-10 y sgôr felly o blaid y Gweilch ar ôl hanner cyntaf diddorol.
Roedd yr ail hanner yr un mor agos ond bu rhaid i’r Gweilch ddibynnu fymryn yn fwy ar eu hamddiffyn dewr a chicio cywir Biggar yn yr ail ddeugain munud.
Ymestynnodd y maswr y fantais i naw pwynt gyda dwy gic gosb gynnar cyn i Gopperth daro nôl gyda thair cic lwyddiannus mewn chwarter awr da i’r Gwyddelod.
Cyfartal oedd hi felly gyda’r chwiban olaf yn agosáu ond llwyddodd Biggar i roi ei dîm yn ôl ar y blaen gyda gôl adlam ddeg munud o’r diwedd cyn sicrhau’r fuddugoliaeth gyda chic gosb arall dri munud o’r diwedd.
Mae’r Gweilch yn aros yn y pumed safle yn nhabl y Pro12 er gwaethaf y fuddugoliaeth hon ond mae eu prif wrthwynebwyr yn y ras am y pedwerydd safle holl bwysig angen teithio i Munster yfory.
Wedi hynny, rhaid i’r Albanwyr wynebu Ulster, Caeredin a Treviso hefyd. Y Dreigiau, Zebra a Connacht yw gwrthwynebwyr olaf y Gweilch.
.
Gweilch
Cais: Jeff Hassler 33’
Trosiad: Dan Biggar 34’
Ciciau Cosb: Dan Biggar 16’, 21’, 43’, 51’, 77’
Gôl Adlam: Dan Biggar 71’
.
Leinster
Cais: Cian Healy 37’
Trosiadau: Jimmy Gopperth 39’
Ciciau Cosb: Jimmy Gopperth 10’, 53’, 60’, 68’