Bydd Lewis Evans yn arwain y Dreigiau yfory yn erbyn Treviso yn absenoldeb y capten Andrew Coombs oherwydd anaf.
Mae Cyfarwyddwr y Dreigiau Lyn Jones wedi gwneud tri newid arall i’r tîm a gollodd i Gaeredin y penwythnos diwethaf. Mae’r asgellwr Tom Prydie a Hallam Amos yn cadw eu lle, felly hefyd y canolwyr Pat Leach a Jack Dixon. Dan Evans fydd y cefnwr yr wythnos hon eto. Daw Wayne Evans fewn fel mewnwr yn bartner i Jason Tovey. Mae’r mewnwr Richie Rees wedi colli ei le ac yn dechrau ar y fainc.
Bydd y tri yn y rheng flaen yn dechrau gyda’i gilydd am y trydydd tro o’r bron sef y bachwr Elliot Dee a’r ddau brop Phil Price a’r profiadol Duncan Bell. Cory Hill a Matthew Screech fydd y ddau glo. Nic Cudd a’r Llew Taulupe Faletau fydd yn ymuno gydag Evans yn y rheng ôl.
Tîm y Dreigiau
Olwyr – Dan Evans, Tom Prydie, Pat Leach, Jack Dixon, Hallam Amos, Jason Tovey a Wayne Evans.
Blaenwyr – Phil Price, Elliot Dee, Duncan Bell, Cory Hill, Matthew Screech, Lewis Evans (Capten), Nic Cudd a Taulupe Faletau.
Eilyddion – Sam Parry, Owen Evans, Bruce Douglas, Rob Sidoli, Jevon Groves, Richie Rees, Kris Burton a Ross Wardle.