Mae tîm pêl-droed Caerdydd wedi diswyddo aelod o staff ar ôl dod o hyd i neges testun oedd yn cynnwys gwybodaeth am y chwaraewyr fyddai’n chwarae yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn diwethaf. Mae’n debyg y bydd aelod arall yn cael ei ddisgyblu ar ôl yr hyn a ddigwyddodd yn erbyn Crystal Palace.
Mae Cadeirydd Caerdydd Mehmet Dalman wedi cysylltu â’r Uwch Gynghrair i wneud cwyn ar ôl i fanylion y tîm gael eu rhoi i Palace. Nid oedd Dalman yn fodlon gwneud sylw ac unig sylw rheolwr Caerdydd Ole Gunnar Solskjaer oedd:
‘‘Mae’n rhaid i chi ofyn i’r Cadeirydd.’’
Mae yna ymchwiliad mewnol wedi bod ond ni fydd y clwb pêl-droed yn enwi unrhyw unigolion sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad. Mae’n debyg bod y rheolwr yn ymwybodol o’r digwyddiad cyn y gêm a bod y clwb o Lundain yn ymwybodol o’r tîm fyddai’n dechrau’r gêm.
‘‘Nid oedd gan y digwyddiad ddim i’w wneud â’r canlyniad,” meddai llefarydd ar ran Caerdydd.
“Yr oedden nhw yn dda a ninnau’n wael, nid mater o rawnwin surion yw hyn. Fe wnaeth Solskjaer siarad gyda rheolwr Palace, Tony Pulis, ar ôl y gêm gan fynegi ei siom.’’
Mae’n debyg bod Pulis wedi ymateb trwy ddweud na wnaeth ofyn am fanylion tîm Caerdydd. Dalman yn hytrach na Vincent Tan fu’n cyfweld yr unigolion oedd yn ymwneud â’r mater.
‘‘Yr wyf yn gwbl ffyddiog yng ngonestrwydd a ffyddlondeb y garfan,’’ dywedodd Solskjaer.