Mae clybiau Ewrop wedi dod i gytundeb o’r diwedd ynglŷn â chynnal cystadleuaeth Ewropeaidd newydd fydd yn cymryd lle Cwpan Heineken y tymor nesaf.

Bydd Cwpan y Pencampwyr newydd yn cynnwys 20 tîm – pedwar yn llai na’r Cwpan Heineken – ac mae ei dyfodol yn saff am o leiaf wyth mlynedd, gyda BT Sport a Sky yn rhannu’r hawliau darlledu.

Daw chwe thîm yr un o gynghreiriau Lloegr a Ffrainc a saith o gynghrair y Pro 12 yn y gystadleuaeth bob blwyddyn, gyda lle ychwanegol ar gael drwy gêm ail gyfle.

Bydd Cwpan Sialens yn cymryd lle’r Cwpan Amlin presennol fel y gystadleuaeth Ewropeaidd eilradd, a thrydydd cystadleuaeth ragbrofol hefyd yn cael ei sefydlu.

Mae nifer timau’r Pro 12 fydd yn chwarae yn y prif gwpan Ewropeaidd am gael ei leihau o’r deg presennol i saith.

Gwarant i un tîm o Gymru

Bydd gwarant o le i un tîm yn unig o bob gwlad – Cymru, yr Alban, Iwerddon a’r Eidal – gyda’r gweddill yn gorfod ennill eu lle drwy orffen yn ddigon uchel yn y tabl.

“Rydw i wrth fy modd ein bod ni bellach yn medru symud ymlaen gyda strwythur clir ar gyfer cystadleuaeth Ewropeaidd o dymor nesaf ymlaen,” meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis.

“Mae pawb sydd yn rhan o’r gêm, o chwaraewyr i gefnogwyr i noddwyr, yn medru cynllunio nawr ar gyfer y dyfodol.

“Roedd nifer o rwystrau i’w taclo er mwyn cyrraedd y pwynt yma, ond roedd URC yn parhau’n hyderus y buasem ni’n canfod ateb ac mae’r cadarnhad unfrydol yma yn amlwg yn dda i’r gêm.”