Mae angen i’r Gweilch guro Leinster ar y Liberty heno i orffen yn y pedwar safle uchaf a chael cymryd rhan yn y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor.
Bydd y cefnwr Richard Fussell yn gwneud ei ganfed ymddangosiad dros y Gweilch, ond ni fydd y mewnwr Rhys Webb na’r bachwr Richard Hibbard ar gael oherwydd anafiadau. Mae amheuaeth a fyddan nhw wedi gwella’n ddigon da i fynd ar daith Cymru i Dde Affrica.
Fe ymunodd Fussell â’r rhanbarth fel asgellwr yn ystod haf 2010. Ar yr un pryd yr oedd Shane Williams, Tommy Bowe a Nikki Walker yn chwarae fel asgellwyr i’r Gweilch ac o ganlyniad fe newidiodd Fussell ei safle gan chwarae fel cefnwr.
‘‘Bydd yn rhaid i ni chwarae’n dda yn gyson rhwng nawr a diwedd y tymor os ydym am fod yn rhan o’r gemau ail gyfle,” meddai Steve Tandy, prif hyfforddwr y Gweilch.
“Yr oeddwn yn siomedig iawn gyda’r canlyniad yn erbyn Glasgow, ond mae agwedd y garfan wedi bod yn ardderchog gyda phawb yn edrych ymlaen at yr her sydd o’m blaen. Mae’n debyg mae Glasgow yw’r ffefrynau ar hyn o bryd i gipio’r pedwerydd safle ond mi fyddwn yn gweithio’n galed i ennill y pedwerydd safle. Mae’n bwysig cael canlyniad da heno.”