Bydd canolwr Cymru a’r Llewod Jonathan Davies yn arwain tîm cryf a phrofiadol y Scarlets yn erbyn Zebre ar Barc y Scarlets yfory.

Ar ôl ennill y bedair gêm ddiwethaf gartref bydd Jonathan Davies a’i dîm gobeithio gwneud yn well na’r gêm gyfartal 16-16 a gafwyd oddi cartref yn Stadio XXV Aprile nôl ym mis Hydref.

Bydd y mewnwr rhyngwladol Rhodri Williams yn dechrau yn lle Gareth Davies sy’n dioddef o anaf.

Rhys Prisetland fydd y maswr gydag Olly Barkley yn ymuno â Jonathan Davies yn y canol.  Jordan Williams a Kristian Phillips fydd yr asgellwyr a Liam Williams fydd yn safle’r cefnwr.

Daw chwaraewr rhyngwladol Cymru Aaron Shingler i’r tîm fel blaenasgellwr am y tro cyntaf ers i’r rhanbarth golli i’r Harlequins yng Nghwpan Heineken ym mis Ionawr.  Josh Turnbull a chwaraewr rhyngwladol Tonga Sione Timani fydd aelodau eraill y rheng-ôl.

Bydd George Earle yn dychwelyd i’r ail-reng ar ôl gwella o’i anaf yn bartner i Jake Ball, a wnaeth gryn argraff yn y tîm cenedlaethol yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.  Y bachwr Emyr Phillips, y prop pen rhydd Rob Evans a’r prop pen tyn Rhodri Jones fydd yn y rheng flaen.