Syr Dave Brailsford
Bydd Prifysgol Bangor yn ailenwi eu canolfan chwaraeon ar ôl yr hyfforddwr beicio, Syr Dave Brailsford, a fagwyd ym mhentref Deiniolen sy’ rhyw saith milltir o’r ddinas.

Yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn, bydd enw’r ganolfan yn cael ei newid o Faes Glas i Ganolfan Brailsford.

Cafodd Dôm Chwaraeon ei ychwanegu at y ganolfan yn ddiweddar, ac mae dau gwrt tenis a phêl rwyd dan do yno hefyd. Yn ogystal, mae gwaith ar y gweill i adeiladu stiwdio erobig a champfa dau lawr sy’n cynnwys 50 o beiriannau cardiofasgwlaidd.

Mae disgwyl i’r datblygiad fod wedi ei orffen erbyn yr haf.

Dywedodd Syr Dave Brailsford: “Mae’n anrhydedd mawr i mi fod Prifysgol Bangor wedi dewis rhoi fy enw ar ei Chanolfan Chwaraeon a dwi’n hynod falch o weld bod chwaraeon yn chwarae rhan mor ganolog yng ngweithgareddau’r Brifysgol.”

Dan arweiniad Syr Dave mae beicwyr o Brydain ennill 30 medal Olympaidd yn Athen, Beijing a Llundain, 49 o fedalau Paralympaidd a dros 100 o fedalau Pencampwriaeth Byd

Cyhoeddwyd heddiw ei fod wedi ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Perfformio tîm seiclo Prydain, er mwyn canolbwyntio ar hyfforddi tim Sky.