Fe fydd sgarffiau sydd wedi cael eu rhoi er cof am y 96 o gefnogwyr fu farw yn Hillsborough yn 1989 yn cael eu gosod ar gae Anfield mewn gwasanaeth coffa.
Mae’n 25 o flynyddoedd ar Ebrill 15 eleni ers i’r cefnogwyr Lerpwl gael eu lladd yn ystod gêm gwpan yr FA yn erbyn Nottingham Forest yn Sheffield.
Mae cwest o’r newydd i ddarganfod yr hyn ddigwyddodd eisoes wedi dechrau yn llys crwner Warrington.
Cafodd canlyniad y cwest gwreiddiol ei ddiddymu yn 2012 wedi iddi ddod i’r amlwg bod Heddlu De Swydd Efrog wedi dileu ac addasu cofnodion o’r trychineb oedd yn awgrymu mai eu ffaeleddau nhw oedd yn gyfrifol am y marwolaethau.
Bydd gwasanaeth coffa’n cael ei gynnal yn Anfield ddydd Mawrth, union 25 mlynedd ers y trychineb.
Bydd y sgarffiau’n cael eu gosod yng nghylch canol y cae ar siâp rhif ‘96’, ac mae’r deyrnged yn cael ei gweld fel arwydd o undod ymhlith y byd pêl-droed ar draws gwledydd Prydain.
Mae’r clwb eisoes wedi derbyn cannoedd o sgarffiau ar gyfer yr achlysur, ar ôl annog pobol i anfon eu sgarffiau atyn nhw gyda neges arnyn nhw.
Yn dilyn y gwasanaeth, bydd y sgarffiau’n cael eu rhoi i elusennau lleol i godi arian.
Manylion coffáu’r trychineb
Bydd gemau ledled Cynghrair Lloegr ddydd Sadwrn yn dechrau am 3.07, gyda munud o dawelwch cyn y gic gyntaf.
3.06pm oedd yr amser y digwyddodd y drychineb.
Bydd mosaic yn cael ei ddal i fyny mewn un eisteddle yn ystod gêm Lerpwl yn erbyn Man City ddydd Sul.
Cyn y gic gyntaf bydd blodau coch a glas yn cael eu rhoi ar y cae gan Kenny Dalglish ac Ian Rush.
A bydd cynrychiolwyr o glwb Lerpwl yn bresennol yn y gwasanaeth coffa ddydd Mawrth, yn ogystal â chyn-chwaraewyr a chyn-reolwyr.
Bydd rheolwyr Lerpwl ac Everton, Brendan Rogers a Roberto Martinez, yn darllen yn ystod y gwasanaeth.
Bydd modd i gefnogwyr fynd i Barc Goodison, cae Everton, i wylio’r gwasanaeth ar sgrîn fawr.
Ar Ebrill 21, fe fydd cyn-chwaraewyr Lerpwl yn herio’i gilydd mewn gêm arbennig yn Anfield.