Rhys Hartley
Rhys Hartley fu’n gwylio enwogion Borussia Dortmund (ac eraill!) …

Ers i’m ffrind symud i Dortmund roeddwn yn ysu i ymweld ag ef, a gwylio ychydig o bêl-droed gyfandirol.

Yn amlwg, y ‘wal felen’ enwog yn y Westfalenstadion oedd yn denu, er gwaetha’ protestiadau fy mêt sy’n dilyn archelynion Borussia, Schalke. Felly dyma fi a Cian, ffrind o Gaerdydd, yn bwcio i fynd yno’r penwythnos d’wetha.

Gyda ffleit yn gynnar bore Gwener a Cian yn aros tan ddydd Mawrth, penderfynom ffeindio gêm yn Llundain nos Iau a nos Lun. Enfield a Spurs oedd ein hunig gyfleoedd.

Enfield

Trwy ddilyn Clapton dwi wedi gwneud ffrindiau o sawl glwb gwahanol, sy’n ceisio efelychu’r hyn ry’n ni’n ei wneud. Mae Enfield Town yn un ohonyn nhw.

Maent yn denu bron i bedair gwaith cefnogaeth Clapton ac mae eu ‘Ultras’ nhw, fel ni, yn canu yn ddi-dor drwy’r gêm, beth bynnag y sgôr.

Bydd cefnogwyr Caerdydd yn cofio Enfield am gêm gwpan bron i ugain mlynedd yn ôl, un o’r ‘giantkillings’ gwaetha’ i dîm y brifddinas ddioddef.

Er eu llwyddiant aeth yr Enfield yna i’r wal ac mae’r tîm ‘ffenics’ yn chwarae mewn stadiwm hyfryd ar steil ‘art deco’ sy’n adeilad rhestredig.

Llwyddodd y tîm cartref i wyrdroi’r sgôr o un i lawr gan guro Bognor Regis o 2-1. Roedd hi’n fuddugoliaeth bwysig gan godi Enfield o waelodion y gynghrair a daeth y chwaraewyr draw i ddathlu gyda’u cefnogwyr ar ddiwedd y gêm fel petaent wedi ennill y cwpan.

Essen

Wedi holl gyffro’r noson gynt, fe ddeffron ni’n eithaf blinedig ddydd Gwener, ond yn barod am bennod nesa’ stori ein ‘penwythnos pêl-droed’.

Roedd fy ffrind yn Yr Almaen am fynd â ni i weld ei dîm lleol, Rot-Weiss Essen, yn chwarae ym mhedwaredd gynghrair yr Almaen. Gwych!

Ar ôl dominyddu’r gynghrair Almaenig yn y 1950au mae’r tîm bellach yn dioddef yn y cynghreiriau rhanbarthol, ond yn dal i ddenu torfeydd o saith mil, sy’n dipyn o gamp o ystyried pa mor agos yw’r cewri Schalke a Dortmund.

Yn wir, siaradais gyda ffyddloniaid Essen oedd yn feirniadol iawn o ddilynwyr y timoedd mwy. Roedd hyn yn atgoffa fi o fy nyddiau fel plentyn yn dilyn Caerdydd pan fyddwn yn mynd at gefnogwyr Man U a Lerpwl a gofyn o ba ran o’r ddinas oedden nhw’n dod.

Jyst dychmygwch y llwyddiant y gall y timau llai ei gael petai dilynwyr y clybiau mawr yn gwario eu harian ar eu timoedd lleol.

Wrth gwrs, aethom ni i’r teras mawr tu ôl i’r gôl, lle bu’r sŵn yn danllyd, trwy gydol y gêm. Cawsom yfed cwrw wrth sefyll, gyda boi ar ben y rheiliau yn arwain y canu. Roedd e’n gwmws fel gwylio Cynghrair Uwch Essex ond ychydig yn fwy poblog!

Roedd hi’n fuddugoliaeth syml o 2-0 yn y pen draw gyda’r dathlu yn parhau yng nghanol y ddinas tan yr oriau mân.

Dortmund yn denu

Gyda chur pen digon swmpus y prynhawn wedyn, ffwrdd â ni i Dortmund ar gyfer Y gêm fawr. Roedd y trên o Essen yn llawn dop gyda phobl yn gwisgo du a melyn ac roeddwn i nawr yn deall cwyn cefnogwyr Rot-Weiss.

Ta beth, anghofiais i’r cwbl wrth gyrraedd y stadiwm. Dwi’n ffan fawr o feysydd traddodiadol ond roedd hwn yn arbennig; yn dal dros 80,000 gyda 25,000 yn sefyll ar y ‘Südtribune’, y teras enwog.

Roedd ein seddi ni wrth ymyl y cwrt chwech pen draw’r stadiwm ond roedd hi’n amhosib clywed unrhyw beth heblaw am y teras enfawr. Diolch byth roedd yn ddigon tawel o dan y stand i’r barman glywed ‘Drei bier bitte’.

Fel Enfield, roedd Dortmund ar ei hôl hi ar yr hanner ond llwyddon nhw i ddod i gipio buddugoliaeth ar y chwib olaf. Roedd y sain wrth i’r goliau fynd i mewn yn anhygoel ond ges i ‘chydig o siom fod angen cymorth miwsig o’r PA.

Dyma un o fy nghas bethau mwyaf. Mae’n Americaneiddio’r gêm brydferth.

Mae’n rhaid canmol y mudiad ‘Ultras’ am fynd yn erbyn y trend yma gan ychwanegu lliw a sain eu hunain at y gêm. Ac mae’n amlwg fod y chwaraewyr yn gwerthfawrogi hyn. Fe ddaethon nhw hefyd draw at y cefnogwyr wedi diwedd y gêm i ddathlu.

Lawr i’r Lane

Nôl i Lundain nos Lun, a gyda’r tocyn rhataf oedd ar gael (£37 heb y ffi bwcio), dyma ni’n mynd i White Hart Lane. Cawsom beint mewn tafarn a oedd wedi’i blasteri gyda lliwiau Spurs a ‘Spurs are on their way to Wembley’ yn adleisio ar draws y bar.

Tu fewn i’r maes, fodd bynnag, dim ond cwpwl o siantiau marwaidd ‘Oh when the Spurs…’ oedd i’w clywed, er iddyn nhw sgorio pump.

Chwarae teg i ffyddloniaid Sunderland. Roedden nhw’n dal i ganu tan y funud olaf er eu bod ar waelod y tabl ac yn wynebu siwrne hir yn ôl i’r gogledd.

Henffordd i Glapton

Wedi i Cian ddychwelyd i Gaerdydd, daeth fy nghariad lan i ymweld. Roedd hi’n gorfod gweithio felly es i weld Henffordd nos Fawrth yn Welling.

Cael a chael oedd hi i’r Teirw. Roedden nhw newydd osgoi achos am fil treth o £87,000. Fe gawson nhw gasgliad bwced er mwyn codi rhagor o arian.

Mae’n rhyfedd i feddwl y byddai eu holl broblemau wedi eu datrys petai cefnogwyr Dortmund i gyd yn talu punt y pen i’w coffrau.

Bu’n rhaid i ‘nghariad weithio nos Fercher hefyd (mae’n rhyfedd sut mae pethau cwympo i’w lle weithiau). A dyma fi a fy ffrindiau bant i weld Clapton oddi cartref yn Greenhouse. Rown i’n nabod y siwrne’n iawn – mae maes Greenhouse ar White Hart Lane!

Roedd hi’n £6 i fynd mewn, ro’n i’n cael mynd â chaniau o gwrw mewn ac roedd y bomiau mwg yn ychwanegu at yr awyrgylch.

Roedd hi’n gêm wych, er i ŵydd ffeindio’i ffordd ar y cae a thynnu’n sylw am sbel yn yr ail hanner – roedd e’n sicr yn camsefyll ar gyfer un o goliau’r tîm cartref!

Er i Clapton golli, gôl funud olaf, daeth y chwaraewyr a’r rheolwr draw atom ni i ddiolch am ein cefnogaeth ac i ymddiheuro am y canlyniad, jest fel wnaethon nhw yn yr Almaen.

Chewch chi fyth yr agosatrwydd yma ar lefel ucha’r gêm yn Lloegr.

Uwch Gynghrair yn siomi

Ble aeth pethau’n rong yn y wlad hon, felly? Pam mai gemau’r Uwch Gynghrair  yw’r mwyaf diflas i fi fynychu eleni?

Mae’n braf gweld timau ‘is’ Prydain yn ceisio efelychu’r ‘steil Almaenaidd.’ Cefnogaeth leol gref, digon o dwrw a lliw, parch gan y chwaraewyr a’r clwb tuag at gefnogwyr.

Mae Crystal Palace wedi dechrau gyda’u grŵp ultras nhw ac roedd protest glas Caerdydd yn edrych yn wych.

Gwell hwyr na hwyrach ond mae’n rhaid i’r cefnogwyr eu hunain gymryd rhan fwy blaenllaw a mynnu mai eu gêm nhw a neb arall ydy pêl-droed.

Gallwch ddilyn Rhys Hartley ar @rhyshartley.