Vincent Tan
Mae perchennog clwb pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan, wedi gofyn i’r Uwch Gynghrair wneud ymchwiliadau i’w gwyn bod Crystal Palace wedi cael gwybodaeth am yr un ar ddeg fyddai’n dechrau’r gêm yr wythnos ddiwethaf trwy dwyll.

Mae Caerdydd wedi cysylltu â Prif Weithredwr y Gynghrair, Richard Scudamore yn achwyn bod cyfarwyddwr chwaraeon Crystal Palace wedi defnyddio ei gysylltiadau yn y clwb. Fe roddwyd yr enwau anghywir iddo am dîm Ole Gunnar Solskjaer.

Crystal Palace wnaeth ennill y gêm 3-0 gan roi Caerdydd mewn sefyllfa beryglus o syrthio o’r Uwch Gynghrair.

Fe wnaeth Tan ddiswyddo Iain Moody a oedd yn aelod o dîm rheoli Malky Mackay ym mis Hydref. Mae’r Gynghrair wedi cadarnhau bod Caerdydd wedi ysgrifennu at Scudamore, ond bod yn rhaid iddynt wneud cwyn swyddogol cyn y gellir mynd a’r mater ymhellach.

Fe wnaeth Prif Weithredwr Caerdydd Simon Lim, gyhuddo Malky Mackay a Iain Moody o wario gormod ar y blaenwr Andreas Cornelius ym mis Ionawr. Mae’r blaenwr a gostiodd £8.5 miliwn wedi dychwelyd erbyn hyn i FC Copenhagen.