Nathan Dyer
Mae asgellwr tîm pêl-droed Abertawe, Nathan Dyer, wedi dweud bod y clwb yn canolbwyntio are u perfformiadau i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Ar ôl colli i Hull 1-0 y penwythnos diwethaf dim ond 6 pwynt o wahaniaeth sydd rhwng yr Elyrch a Fulham sydd yn y trydydd safle o’r gwaelod. Bydd Abertawe yn chwarae yn erbyn Chelsea ar y Liberty brynhawn Dydd Sul.

Byddai buddugoliaeth yn hwb enfawr i Abertawe fod yn ddiogel am dymor arall yn yr Uwch Gynghrair ond rhaid cofio bod Chelsea yn brwydro’n galed i ennill y Bencampwriaeth.

‘‘Mae’n anodd ar y funud gyda bob tîm yn brwydro am y pwyntiau ac mae’n rhaid i ni fanteisio ar bob cyfle. Mae yna dimoedd yn ceisio ennill y Bencampwriaeth ac eraill yn ymladd i aros yn yr Uwch Gynghrair felly mae pawb ar eu gorau ymhob gêm,’’ dywedodd Dyer.

‘‘Fe fydd y gêm yn erbyn Chelsea yn galed ond fel tîm bydd yn rhaid i ni ei gwneud yn anodd iddynt greu cyfleoedd. Erbyn hyn mae pawb wedi gwella a mae gan y rheolwr garfan lawn i ddewis ohoni. Yr ydym yn gwthio ein gilydd yn galed ar y maes ymarfer ac mae’n bwysig bod pob aelod o’r garfan yn gwneud ei ran. Mae yna agwedd dda ar y maes ymarfer,’’ ychwanegodd Dyer.