Tour de France 2012
Mae David Brailsford wedi gadael ei waith fel Cyfarwyddwr Perfformio tîm seiclo Prydain.
O dan arweiniad Brailsford, fe enillodd Prydain wyth medal aur yng Ngemau Olympaidd Beijing a Llundain.
Cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Perfformio yn 2003.
Sefydlodd dîm Sky, oedd yn fuddugol yn y Tour de France ddwy flynedd yn olynol yn 2012 a 2013 pan enillodd Bradley Wiggins a Chris Froome.
Cafodd ei urddo’n farchog yn dilyn llwyddiant tîm Prydain yng Ngemau Olympaidd Llundain.
Fe fydd Brailsford yn parhau â’i waith o arwain tîm Sky.
Mae Golwg360 yn deall fod y pwysau o arwain dau dîm wedi bod yn ormod i Brailsford, wrth i dîm Prydain ddechrau paratoi at Gemau Olympaidd Rio de Janeiro ymhen dwy flynedd.
Tour de France 2014
Eleni, fe fydd tîm Sky yn cystadlu yn y Tour de France sy’n cychwyn yn Swydd Efrog, a’r Giro d’Italia ym Melfast.
Mae disgwyl i’r tîm sefydlu pencadlys newydd yn ne Ffrainc, a fyddai wedi golygu y byddai’n rhaid i Brailsford deithio tipyn rhwng Ffrainc a Manceinion.
Penderfynodd Brailsford aros yn ei swydd gyda thîm Prydain yn dilyn Gemau Olympaidd Llundain ddwy flynedd yn ôl ond fe fu’n rhaid iddo golli ambell ras gyda’r tîm yn ddiweddar oherwydd ei gyfrifoldebau gyda thîm Sky.
Cyn Cwpan Pêl-droed y Byd yn yr haf, fe fydd Brailsford yn mentora tîm Lloegr.
Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol yn ddiweddarach heddiw.