Cyn-gapten rygbi Cymru Gareth Thomas
Bydd cyn-chwaraewr rygbi Cymru Gareth Thomas ymysg y rheiny fydd yn beicio rhan o lwybr Etape Cymru ddydd Mercher nesaf 16 Ebrill.
Ac mae cyfle i CHI fod yn rhan o’r bwrlwm ar y beic gyda chystadleuaeth golwg360 i seiclo gyda’r dyn ei hun!
Mae ras Etape Cymru’n digwydd ym mis Medi, ond yr wythnos nesaf fe fydd Gareth Thomas, sydd yn llysgennad i’r ras, yn rhan o griw fydd yn beicio rhan o’r llwybr hwnnw.
Ac fe fydd dau o enillwyr cystadleuaeth golwg360 hefyd yn cael y cyfle i feicio’r siwrne yna gyda Gareth, gan gynnwys cyfle i’w herio wrth i chi brofi rhai o lwybrau serth y ras gan gynnwys Bwlch yr Oernant, yn ogystal â chael lluniau wedi’i dynnu gydag ef.
Bydd y cyfan yn dechrau yng Ngwesty’r Lemon Tree yn Wrecsam am 12yp gyda’r holl beth yn para tua thair awr – ac wrth gwrs, fe fydd yn rhaid i chi ddod â beic gyda chi!
Y cyfan sydd yn rhaid i chi wneud yw dilyn y linc â’n e-bostio ni gyda’ch ENW, RHIF FFÔN a BRAWDDEG (dim mwy na 40 gair) yn esbonio pam eich bod chi’n awyddus i seiclo rhan o lwybr Etape Cymru gyda Gareth.
Bydd y gystadleuaeth yn cau am 12.00yp dydd Llun 14 Ebrill.
Mwy o wybodaeth am y ras ym mis Medi i’w canfod ar http://humanrace.co.uk/cycling.