Gethin Jenkins
Mi fydd prop y Gleision Gethin Jenkins yn gwneud ei ganfed ymddangosiad i’r rhanbarth wrth iddyn nhw deithio i Meggetland i herio Caeredin nos yfory.
Nid yw hyfforddwyr y Gleision, Paul John a Dale McIntosh wedi gwneud unrhyw newidiadau i’r tîm a gurodd Ulster ym Mharc yr Arfau mis diwethaf.
Mi fydd y clo rhyngwladol Bradley Davies yn dechrau ar y fainc wedi iddo golli pum mis oherwydd anaf, hefyd bydd Dafydd Hewitt yn dychwelyd yn ôl ymysg yr eilyddion.
‘‘Mi fydd hi’n gêm anodd i ni ond mae angen i ni ganolbwyntio ar ein gêm. Mae’r chwaraewyr wedi bod yn ymarfer yn galed y pythefnos diwethaf ac mae’n bwysig i ni gadw’r cysondeb yn ein chwarae ar gyfer y pedair gêm olaf y tymor,’’ meddai Paul John.
Tîm y Gleision
Olwyr – Dan Fish, Alex Cuthbert, Cory Allen, Isaia Tuifua, Chris Czekaj, Gareth Davies a Lewis Jones.
Blaenwyr – Gethin Jenkins (Capten), Kristian Dacey, Taufa’ao Filise, Lou Reed, Filo Paulo, Macauley Cook, Josh Navidi a Robin Copeland.
Eilyddion – Matthew Rees, Thomas Davies, Scott Andrews, Bradley Davies, Ellis Jenkins, Lloyd Williams, Simon Humberstone a Dafydd Hewitt.