Will Bragg
Cyrhaeddodd batwyr Morgannwg eu nod o 153 heb golli wiced yn yr Oval brynhawn ddoe i sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed ar gae Surrey yn Llundain.
Agorodd Will Bragg a Gareth Rees ail fatiad Morgannwg gyda 78 o belawdau’n weddill i gyrraedd y nod.
Dechreuodd Morgannwg sesiwn y prynhawn gyda 26 ar y sgorfwrdd heb golli wiced, gyda 127 o rediadau ar ôl i’w sgorio.
Tarodd yr agorwyr nifer o ergydion i’r ffin i gyrraedd yr hanner cant o fewn 20 pelawd, wrth i Bragg yrru’r bêl trwy ganol y wiced oddi ar fowlio Stuart Meaker.
Cyrhaeddodd Will Bragg ei hanner cant oddi ar 96 o belenni wrth iddo ergydio’r bêl trwy’r cyfar oddi ar fowlio Meaker.
Yn fuan wedyn, sicrhaodd Rees a Bragg bartneriaeth o gant o rediadau trwy sgorio dau bedwar oddi ar fowlio Chris Tremlett, cyn i Gareth Rees gyrraedd ei hanner cant oddi ar 110 o belenni.
Chafodd troellwyr Swydd Surrey fawr ddim lwc chwaith wrth i’r agorwyr garlamu tua’r nod gyda chyfres o ergydion at y ffin, cyn i Forgannwg gyrraedd eu nod o 153 gyda 32 o belawdau’n weddill.
Dyma’r tro cyntaf i Forgannwg guro Swydd Surrey o 10 wiced yn yr Oval – eu buddugoliaeth fwyaf cyn ddoe oedd honno o naw wiced yn 1961.
Dyma’r ail dro yn eu hanes iddyn nhw guro Surrey o ddeg wiced – y tro cyntaf yng Nghastell-nedd yn 1968.