Maen nhw’n dweud na ddylech chi fynd yn ôl at hen fflam, ond dyna wnaeth Tîm yr Wythnos golwg360 y penwythnos diwethaf wrth ddilyn Pontypridd eto yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon – a gweld buddugoliaeth hanesyddol i’r clwb.
Felly wfft i’r rheol yna, a nôl a ni i Lanrug yr wythnos hon – achos mae’r tîm pêl-droed wedi cyrraedd rownd derfynol Tlws Cymru!
Ers i ni fod yno nôl ym mis Hydref, a’u gweld nhw’n cael gêm gyfartal i ffwrdd yn erbyn Dinbych oedd ar frig eu cynghrair, mae tîm Llanrug wedi mynd ar rediad hynod o gemau.
Maen nhw wedi ennill 19 o’u 20 gêm ddiwethaf, rhediad sydd wedi’u cludo nhw i ail yn y gynghrair, ffeinal Cwpan Cookson a rownd gynderfynol Cwpan Mawddach.
Daeth yr un golled hwnnw yn ffeinal y Cookson yn erbyn Treffynnon – y tîm wnaeth bron lwyddo i roi sioc enfawr i Aberystwyth yng Nghwpan Cymru.
Ond dydd Sadwrn yma fe fydd Llanrug yn wynebu Chirk AAA ar faes y Belle Vue yn Rhyl – gyda’r gic gyntaf am 2.30yp – er mwyn ceisio hawlio un o dlysau mwyaf nodedig pêl-droed Cymru.
Yma fe allwch weld ein cyflwyniad gwreiddiol a darllen mwy am hanes y clwb – a gwylio fideo o’r chwaraewyr yn cyflwyno’u hunain:
Gêm fwyaf eu hanes
Bydd £5,000 o wobr ariannol ar gael i’r tîm buddugol ddydd Sadwrn (o’i gymharu â £3,000 i’r collwyr), gyda’r clwb hefyd yn cael cyfran o’r arian sydd yn cael ei dalu ar y giât.
Mae tri bws eisoes wedi’i llenwi i gludo cefnogwyr Llanrug i Rhyl ar gyfer y gêm, a chyda disgwyl y bydd cannoedd o gefnogwyr yno’n gwylio fe gyfaddefodd rheolwr Llanrug Aled Owen y bydd yn ddiwrnod hanesyddol i’r clwb.
“Dydi’r clwb erioed wedi cael gêm mor fawr â hwn,” meddai Aled Owen. “Mae’r holl garfan yn ffit felly mi fydd gennai ddigon i ddewis ohonyn nhw!
“Hwn di’r unig gwpan ‘da ni’n chwarae sydd drwy Gymru gyfan, a dydyn ni ‘rioed ‘di cyrraedd y ffeinal o’r blaen.
“Dydyn ni ddim yn gwybod lot am y tîm arall, ond sut ‘da ni’n chwarae ar y diwrnod sy’n bwysig – dim ots am neb arall.”
Gyda’r tîm hefyd yn chwarae rownd gynderfynol Cwpan Mawddach yr wythnos wedyn, a 21 pwynt y tu ôl i Ddinbych ar frig y gynghrair ond wedi chwarae pum gêm yn llai, gallai Llanrug dal ennill ‘treble’ eleni.
Ond mae’r rheolwr yn cyfaddef y byddai hynny’n her enfawr.
“Mi fysa fo’n cymryd miracle i guro’r gynghrair,” meddai Aled Owen. “Ond tasa ni’n curo’n gemau in hand ac wedyn curo Dinbych dim ond tri phwynt fysa ynddi, ac maen nhw’n dechrau poeni wedyn.”
Ond cyn hynny, y gêm fwyaf yn hanes y clwb.
Carfan Llanrug:
Gôl: Neil Perkins, Dylan Roberts
Amddiffyn: Terry Jones, Darren Phillips, Eifion Williams, Thomas Williams, Jonathan Peris Jones
Canol cae: Andrew Garlick, Carl Griffiths, Dylan Owen, Matthew Phillips, Andrew Williams, David Noel Williams, Marvin Pritchard
Ymosod: Gerad Laidlaw, Kevin Lloyd, Jamie Whitmore, Sam Williams, Rhys Roberts