Jess Fishlock
Chwaraeodd merched Cymru gêm gyffrous iawn yn erbyn yr Wcráin neithiwr gyda’r sgôr yn dod i 1-1 ar y chwiban olaf ar Barc y Scarlets.

Wedi ennill tair gêm yn barod yn erbyn Twrci, Montenegro a Belarus, a cholli dim ond un yn erbyn Lloegr, roedd rhagolygon y gêm yn dda iawn i Gymru.

Ond fe aeth yr Wcráin i mewn i’r gêm gyda dwy fuddugoliaeth allan o ddwy yn erbyn Twrci a Montenegro, ac felly roedd hi’n argyhoeddi i fod yn gêm a hanner o’r dechrau.

Cyfleoedd gwag

Roedd hi’n edrych fel mai Cymru oedd yn dominyddu’n syth o dan arweiniad y capten Jess Fishlock. Serch hynny, synnwyd pawb gan gôl gyntaf y gêm gan Olha Boychenko, blaenwr yr Wcráin, wrth iddi roi’r bêl yng nghefn y rhwyd ar ôl saith munud i gipio mantais gynnar dros Gymru.

Cafodd merched Cymru sawl cyfle yn dilyn hynny, gyda nifer yn cael eu hachub ac un yn taro’r postyn. Doedd yr Wcráin ddim yn brin o gyfleoedd chwaith gyda sawl cic gornel yn cael ei rhoi o’u plaid.

Ar ddiwedd yr hanner cyntaf gwelodd Daryna Apanaschenko y garden felen ond yr Wcráin oedd yr hapusaf o’r ddau yn gadael y cae am hanner amser.

Canlyniad boddhaol

Parhaodd y brwydro ffyrnig yn yr ail hanner, ond roedd aros nes ganol ffordd drwy’r hanner cyn i Natasha Harding, blaenwr Cymru, fanteisio ar gamgymeriad gan yr Wcráin i roi Cymru’n hafal.

Roedd effaith y gôl yn amlwg ar ysbryd merched Wcráin wrth i Gymru ail ffurfio a pharatoi am ymosodiad arall ar yr ymwelwyr. Cafodd Nicola Cousins o Gymru ac Olha Boychenko o’r Wcráin gardiau melyn yn y deg munud diwethaf hefyd.

Ni ddaeth yr un gôl arall trwy gydol y gêm i’r naill dîm na’r llall, er i’r chwarae ffyrnig barhau nes y chwib olaf, gan adael y sgôr yn hafal ar 1-1.

Felly mae Cymru yn aros yn ail yn y tabl, pum pwynt y tu ôl i Loegr, gyda’r Wcráin yn drydydd, tri phwynt tu ôl i Gymru.

Nid yw Cymru unrhyw gwaeth ar ôl y gêm neithiwr felly, wrth iddyn nhw edrych ymlaen at eu her nesaf yn erbyn Montenegro fis nesaf.