Ole Gunnar Solskjaer
Mi fydd asgellwr Caerdydd Craig Noone yn colli gweddill y tymor oherwydd anaf i gyhyrau’r abdomen.

Mae’n debyg i Noone gael ei anafu yn ystod y gêm yn erbyn Crystal Palace.  Cyn belled mae Noone wedi chwarae 22 gêm i Gaerdydd ac wedi sgorio tair gôl y tymor hwn ac ar fin teithio i’r Unol Daleithiau i weld arbenigwr.

Ar hyn o bryd mae Caerdydd un safle o’r gwaelod yn nhabl yr Uwch Gynghrair a phum gêm yn unig i sicrhau ei dyfodol yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

‘‘Mae Craig yn chwaraewr arbennig i ni, mae’n golled fawr i’r tîm,’’ meddai Ole Gunnar Solskjaer, rheolwr Caerdydd.