Gavin Henson
Mae’r chwaraewr rhyngwladol Gavin Henson wedi arwyddo cytundeb o flwyddyn arall gyda Chaerfaddon.

Roedd sôn bod y chwaraewr 32 oed yn mynd i chwarae ar faes Rodney Parade y tymor nesaf ond wedi gwrthod y cynnig i ddychwelyd i Gymru ar ôl derbyn cytundeb oddi wrth Gaerfaddon.

Ymunodd Henson â Chaerfaddon yr haf diwethaf ar ôl cyfnod yn chwarae gyda’r Cymry Llundain.

Nid yw Henson wedi chwarae mwy nag un tymor mewn unrhyw glwb ers gadael y Gweilch yn 2009, ar ôl blwyddyn allan o’r gêm cyn ymuno â’r Saracens, Toulon, Gleision Caerdydd a Chymry Llundain.  2011 oedd y tro diwethaf i Henson chwarae dros Gymru.