Cipiodd bowliwr llaw chwith Morgannwg, Graham Wagg chwe wiced yn ystod batiad Surrey yn yr Oval.
Cafodd Surrey eu bowlio allan am 81 wrth i Wagg (6-29) gofnodi ffigurau bowlio gorau ei yrfa hyd yn hyn.
Cwympodd wyth wiced Surrey o fewn 16 o belawdau wedi i’r diwrnod olaf ddechrau, wrth i Wagg ychwanegu at y ddwy wiced wnaeth e gipio ddoe.
Mae gan Forgannwg nod o 153 i ennill y gêm mewn ychydig dros ddwy sesiwn.
Gorffennodd y trydydd diwrnod gyda Surrey 121 o rediadau ar y blaen.
Cipiodd Wagg wiced gyda phelen gyntaf y diwrnod olaf, wrth i’r bêl daro ymyl bat Zafar Ansari a saethu i gyfeiriad y wicedwr, Mark Wallace.
Buan y cwympodd y wiced nesaf, wrth i Dominic Sibley gael ei fowlio gan drydedd pelen yr Awstraliad Michael Hogan.
Wrth i Surrey gyrraedd eu hanner cant, bu bron i Wagg gipio wiced Steven Davies cyn i Hogan ddarganfod ymyl bat Gary Wilson i roi seithfed daliad y gêm i Mark Wallace.
Tro Wagg oedd hi yn fuan wedyn, wrth i Jason Roy daro’r bêl yn syth at Jim Allenby yn safle’r slip.
Cwympodd dwy wiced arall yn gyflym o fewn 25 o belenni, gyda Hogan yn bowlio Tom Curran a Wagg yn taro coes Steven Davies o flaen y wiced wrth i Surrey gyrraedd 76/8.
Gyda phedwar rhediad wedi’u hychwanegu at y sgôr, tarodd Wagg goes Chris Tremlett o flaen y wiced cyn i Hogan daro wiced ganol Tim Linley allan o’r ddaear.
Surrey, felly, wedi’u bowlio allan am 81 yn yr ail fatiad, gan osod nod o 153 i Forgannwg ddechrau eu tymor gyda buddugoliaeth.