Mercedes yw’r tîm fydd yn gadael Bahrain yn yr hwyliau gorau ar ôl penwythnos gwych arall iddyn nhw, wrth i Lewis Hamilton gipio cyntaf a Nico Rosberg ei ddilyn i ail ar y podiwm.

Ond cael a chael oedd hi i Hamilton, gyda Rosberg yn ei wthio’r holl ffordd am y fuddugoliaeth wrth i’r ddau gyd-yrrwr gystadlu’n frwd.

Llwyddodd Sergio Perez i fachu’r trydydd safle dros Force India,  gyda cheir Red Bull Sebastian Vettel a Daniel Ricciardo’n parhau i fod ar ei hôl hi.

Rhagbrawf

Ar ôl glaw ym Mahrain ynghynt yn yr wythnos, cafodd sesiwn ragbrofol sych gyntaf 2014 ei chynnal.

Am yr ail dro mewn tri phenwythnos cafodd Sebastian Vettel ei  ddiarddel o ail sesiwn y rhagbrawf a cholli allan ar y deg uchaf. Ond o leiaf y byddai’n cychwyn un safle yn uwch (degfed) oherwydd cosb ei gyd-yrrwr Daniel Ricciardo, am ryddhau’n anniogel yn y pit yn y ras ddiwethaf ym Malaysia.

Fe barhaodd y gystadleuaeth ragbrofol o fewn tîm Mercedes, gyda Nico Rosberg yn cymryd pumed ‘pole’ ei yrfa a Hamilton wrth ei ochr yn ail. Bottas yn y Williams gychwynnodd yn drydydd ar ôl i ‘Ricciardo gael ei wthio i lawr i 13eg.

Dechrau byrlymus

Dechreuodd y ras yn fyrlymus gyda Hamilton yn cipio’r flaenoriaeth oddi wrth Rosberg, â’r ddau yn ymladd yn agos am gyntaf am nifer o gorneli.

Cafodd Felipe Massa ddechrau rhyfeddol wrth ddringo o seithfed i drydydd erbyn y gornel gyntaf. Ceisio profi pwynt i’w gyflogwyr ar ôl trafferthion penwythnos diwethaf efallai?

Dangosodd Jean-Eric Vergne ei ddicter tuag at y Lotus a’i tarodd, gan dyllu’i olwyn, drwy alw’r gyrwyr yn ‘mental’ dros y radio.

Mae tymor Kevin Magnussen wedi bod yn llai disglair ers ei bodiwm yn Awstralia, a dyma fo’n dangos ei ddiffygion wrth iddo glipio Raikkonen.

Yn wahanol i nifer o dimau, mae’n glir nad oes gorchmynion yn mynd o’r tîm i yrwyr Mercedes, wrth i’r ddau gyfnewid safleoedd cyn i Hamilton allu amddiffyn y safle blaen o’r diwedd. Roedd hi’n dangos sgil gan y ddau nad oeddynt wedi taro ei gilydd.

Mercedes … a gweddill y pac

Fel y disgwyl, yn fuan iawn roedd y ddau Mercedes yn tynnu bwlch sylweddol allan i weddill y pac. Ond roedd digonedd i gadw’r sylw y tu ôl iddynt.

Roedd nifer helaeth o yrwyr wedi ceisio cymryd y safle gorau i weddill y pac, gyda Hulkenberg, Perez, Massa a Bottas i gyd yn meddiannu trydydd ryw dro yn ystod y ras. Yn y cyfamser roedd y pencampwr Vettel yn brwydro’n galed ymhellach i lawr i wella ei safle.

Ar ôl peth amser, roedd Hamilton wedi llwyddo i agor bwlch da rhyngddo ef a Rosberg. Ond caeodd y bwlch i ddim wrth i’r car diogelwch ddod allan oherwydd gwrthdrawiad anferth rhwng Maldonaldo a Gutierrez.

Daeth yn ddau at ei gilydd wrth i’r Lotus ailymuno â’r trac o’r pit ac achosi i gar Gutierrez droelli drosodd cyn glanio ar ei olwynion. Wrth lwc ni chafodd Gutierrez  anaf difrifol ar ôl damwain mor frawychus.

Mae Maldonaldo wedi cael cosb o bum safle yn y ras nesaf yn ogystal â thri phwynt ar ei drwydded F1 (bydd 12 pwynt yn golygu gwaharddiad un ras).

Gyda Rosberg rŵan ar gynffon Hamilton ac ar deiars mwy newydd (a chyflymach), roedd y car diogelwch wedi dadwneud gwaith da Hamilton ac yn caniatáu diweddglo cyffrous!

Golygfeydd tebyg i gynharach oedd diwedd y ras gyda Rosberg yn herio’r safle cyntaf, ond yn methu yn y diwedd, gan orffen eiliad yn unig y tu ôl i Hamilton a ddaeth yn hafal â Juan Manuel Fangio ar bedwar ar hugain o fuddugoliaethau yn hanes F1.

Buddugoliaeth a siom yn un

Sergio Perez gwblhaodd y podiwm, yn gorffen yn y tri uchaf am y tro cyntaf ers 2012. O’r diwedd roedd y tymor yn gwella i Ricciardo gan gipio’r pedwerydd safle, dau’n uwch na Vettel gyda Hulkenberg rhyngddyn nhw yn bumed.

Yn briodol o gofio’r ffilm ddiweddar sydd yn y sinemâu, roedd ffurf arch Noa i weddill y deg uchaf gyda’r ddau Williams a’r ddau Ferrari yn cael canlyniadau eithaf siomedig. Siomedig hefyd oedd Jenson Button ar ôl gorfod ymddeol o’i 250fed Grand Prix.

Er iddo gael ei guro, Rosberg sy’n dal gafael ar y bencampwriaeth y gyrwyr yn y cyfnod cynnar yma gyda Hamilton un ar ddeg pwynt y tu ôl iddo.

Er ei bod dal yn gynnar yn y tymor, mae perfformiadau cyson a chryf Nico Hulkenberg yn dechrau dwyn ffrwyth gydag ef rŵan yn drydydd (heb orffen yn y tri uchaf o gwbl eto). Mae ei dîm, Force India, hefyd yn ail (o un pwynt) ym mhencampwriaeth y timau.

Mae’r tymor yma yn dechrau edrych fel un o ddau grŵp – y Mercedes a’r gweddill. Ond mae aelodau’r ddau grŵp yn agos iawn i’w gilydd, felly mae hi’n argoeli i fod yn dymor cyffrous!