Huws yn hapus
Colli oedd hanes Birmingham (eto) neithiwr wrth iddyn nhw ddychwelyd yn waglaw o Middlesbrough ar ôl cael eu curo 3-1 – a hynny yn erbyn naw dyn.
Ond fe fydd y cefnogwyr oedd yno’n siŵr o gofio un moment arall yn y gêm – gôl wefreiddiol gan y Cymro Emyr Huws.
Gyda’i dîm 2-0 ar ei hôl hi fe gasglodd Huws y bêl yn agos i’r ystlys dde a’i symud hi ar ei droed chwith, cyn taro ergyd a aeth fel bwled i gornel bellaf y rhwyd.
Gwyliwch ei gôl yn erbyn Middlesbrough isod:
Er nad oedd hynny’n ddigon i achub canlyniad i’w dîm, mae Huws yn prysur wneud enw iddo’i hun yn Birmingham y tymor hwn.
Symudodd yno ar fenthyg o Man City ym mis Ionawr, ac ers hynny mae’i berfformiadau – gan gynnwys ei gôl gyntaf i’r clwb – wedi ennyn clod mawr gan gefnogwyr y Blues.
Cafodd Huws hefyd ei gap cyntaf dros Gymru eleni, gan edrych yn gyfforddus tu hwnt wrth chwarae 90 munud yn erbyn Gwlad yr Ia fis Mawrth.
Mwy o hyn ac efallai nad yn y Bencampwriaeth fydd o’n chwarae tymor nesaf – Pellegrini, wyt ti’n gwylio?!