Casnewydd 1–2 Plymouth
Mae ail hanner diflas Casnewydd i’w tymor cyntaf yn ôl yn yr Ail Adran yn parhau wedi iddynt golli yn erbyn Plymouth ar Rodney Parade nos Fawrth.
Daeth holl goliau’r gêm mewn cyfnod o ddeg munud yn yr hanner cyntaf ond yn anffodus i Gasnewydd yr ymwelwyr a sgoriodd ddwy allan o’r dair.
Peniodd Tyler Harvey y tîm oddi cartref ar y blaen o groesiad Nathan Thomas wedi ugain munud o chwarae.
Roedd Casnewydd yn gyfartal saith munud yn ddiweddarach wedi i Chris Zebroski rwydo o ongl dynn yn erbyn ei gyn glwb.
Ond roedd Plymouth yn ôl ar y blaen chwarter awr cyn yr egwyl wedi i Conor Hourihane gwblhau gwrthymosodiad chwim gyda gôl.
Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ac fe ddaliodd Plymouth eu gafael ar y tri phwynt gydag ail hanner di sgôr.
Mae Casnewydd yn aros yn bedwerydd ar ddeg yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y canlyniad ond maent bellach wedi chwarae pob un o’u gemau wrth gefn.
.
Casnewydd
Tîm: McLoughlin, Hughes, Jackson, Minshull (Jolley 64′), Blake, Feely, Porter, Willmott, Zebroski, Jeffers (Howe 64′), Flynn (Burge 81′)
Gôl: Zebroski 27’
Cerdyn Melyn: Feely 59’
.
Plymouth
Tîm: Cole, Blanchard, Wotton, Thomas (Berry 88′), Trotman, Nelson, Hourihane, Gurrieri, Reid, Morgan (Showunmi 70′), Harvey (Blizzard 78′)
Goliau: Harvey 21’, Hourihane 30’
.
Torf: 3,381