Jake Ball
Mae Jake Ball chwaraewr clo’r Sgarlets wedi penderfynu ei fod am gael gwared â’i farf enwog ar ddiwedd y tymor ar gyfer elusen Make-A-Wish.
Ymunodd Jake Ball a thîm rygbi’r Sgarlets ym mis Awst 2012 ac ers hynny mae wedi gwneud enw i’w hun drwy ennill cap i Gymru.
Dywedodd Ball ei fod wedi dechrau tyfu’r barf ym mis Medi y llynedd fel her, ond fe drodd yr her yn gyfle i godi arian at achos da.
Mae Make-A-Wish yn elusen sy’n codi arian ar gyfer rhoi cyfle i blant sâl iawn gael gwneud beth bynnag maen nhw’n ei ddymuno – y math o gyfleoedd bydd rhywun yn cael unwaith mewn bywyd.
Targed Make-A-Wish yw gwarantu mil o ddymuniadau bob blwyddyn i’r plant a phobl ifanc yma.
Yn aml bydd pobl yn gwneud gweithgareddau fel rhedeg marathon, seiclo neu gerdded mynyddoedd er mwyn codi arian. Ond penderfynodd Jake Ball gael gwared â’r barf adnabyddus yn lle gyda’r targed o godi £5,000.
Hyd yn hyn, mae wedi codi £393.58 ac yn gofyn am gymaint o gefnogaeth a phosib drwy gyfrannu ar http://www.justgiving.com/JakeBallsBeard.