Rhidian Jones
Rhidian Jones sy’n asesu gobeithion Owen Williams ar gyfer y penwythnos – ac yn yr haf …
Mae’r maswr Owen Williams yn torri ei wallt fel rhyw G.I o Alabama, a phrynhawn fory byddai flak jacket a helmed yn ddefnyddiol tu hwnt iddo.
Bydd y crwtyn o Ystradgynlais yn dechrau dros Gaerlŷr yng nghrochan swnllyd a didostur Stade Marcel Michelin, gyda’r bwriad o dynnu gwynt o deiars y Clermontois yn wyth olaf Cwpan Heineken.
Dyma fydd gêm fwyaf Williams hyd yma. Flwyddyn nôl gwelais i e’n chwarae mewn amgylchfyd tra gwahanol – nos Wener oer ar barc Caerfyrddin yng nghynghrair y Principality. Er iddo gicio 11 pwynt fe gollodd ei dîm, Llanelli, i Quins Caerfyrddin.
Bore trannoeth cyhoeddodd Caerlŷr yn ddisymwth ei fod wedi ymuno â nhw. Beth bynnag am y siom fawr o weld maswr ifanc yn diflannu dros Glawdd Offa, yfory mae cyfle nid yn unig iddo lywio Caerlŷr at fuddugoliaeth annisgwyl ond hefyd i archebu ei le ar yr awyren i Dde Affrica gyda Chymru mewn deufis.
Cipio’r crys
Mae Cwpan y Byd flwyddyn nesaf ac mae angen cystadleuaeth frwd am grys rhif 10 Cymru – crys sydd wedi achosi mwy o ben tost i Gatland nag anad yr un arall.
Roedd Rhys Priestland yn wych yn y safle yng Nghwpan y Byd 2011 ond mae wedi bod yn anghyson ers hynny, ac nid yw Gatland wedi llwyddo i gydweddu’r maswr cywir gyda’r tactegau cywir yn ddiweddar.
Dros y mis diwethaf mae Owen Williams eisoes wedi llwyddo i gipio crys 10 Caerlŷr oddi ar faswr profiadol Lloegr, Toby Flood, ac mae prif hyfforddwr Caerlŷr Richard Cockerill wedi dweud ei bod hi’n bryd i Williams gael cyfle gyda Chymru.
G.I Owen amdani felly yng nghrys 10 Cymru? Yn rhyfedd mae e’n atgoffa rhywun o’r maswr ‘anghofiedig’ hwnnw, James Hook.
Mae’r ddau’n footballers naturiol, yn pasio’n bert, ac yn gyfforddus yn rhedeg ‘da’r bêl. Ond gwendid Hook yw nad yw e wedi gallu rheoli gemau’n ddigon tynn a gosod ei awdurdod.
Yn Clermont-Ferrand fory gawn weld a yw’r gallu hwnnw gan Owen Williams. Os bydd Clermont yn caniatáu iddo gael unrhyw bêl o gwbl.
Proffwydo’r enillwyr:
Munster v Toulouse: Ar bapur mae gan Toulouse dîm mwy deniadol o lawer (Huget, Picamoles, Gear, Fickou, Nyanga …) ond gwytnwch ac undod yw’r agweddau sydd wedi dod â llwyddiant i Munster yn Ewrop. Gan eu bod nhw’n chwarae adref ym Mhac Thomond, Munster i fynd â hi o drwch blewyn.
Clermont v Caerlŷr: Dyw Clermont ddim wedi colli gêm gartref ers 2009, ac er bydd Manu Tuilagi fel tarw cynddeiriog ac Owen Williams yn cicio’r goliau ni fydd bois Michelin yn llithro fan hyn.
Bydd hi’n ddiddorol gweld sut bydd Lee Byrne yn chwarae – cefnwr medrus sydd wedi bod yn cael llawer mwy o hwyl arni yn Ffrainc na Phillips, Lydiate a Roberts, ond heb gydnabyddiaeth gan Gatland.
Ulaidh (Ulster) v Saracens: Cafodd blaenwyr Ulster dipyn o wers gan bac y Gleision – o bawb – nos Sadwrn diwethaf, a bydd pac mawr y Saracens yn cael hwyl ar dargedu unrhyw wendidau.
Roedd chwaraewr pwysig yn eisiau gan Ulster ar Barc yr Arfau, sef y mewnwr Ruan Pienaar, y dyn sy’n llywio popeth iddyn nhw.
Mae e’n rhoi hunanhyder mawr i Ulster ac mae e’n glyfar yn dactegol, ond bydd angen iddo fod – mae’r Saracens ar frig yr Aviva Premiership ac er bod Ravenhill yn lle caled i chwarae, tîm Llundain aiff â hi.
Toulon v Leinster: Mae rhestru’r chwaraewyr fydd yn mynd benben yn y gêm yma fel darllen rhestr o galacticos rygbi’r mileniwm yma – Brian O’Driscoll, Jonny Wilkinson, Bryan Habana, Carl Hayman, Matt Giteau, Martin Castrogiovanni, Frédéric Michalak …
Ond mae mwy o orffennol nag o ddyfodol yn perthyn iddyn nhw! Mae hynna’n arbennig o wir am dîm drudfawr Toulon.
Mae Leinster yn glyfar ac yn brwydro am bob dim, fel y gwnaeth Iwerddon yn ddiweddar wrth gipio’r Chwe Gwlad ym Mharis. Roedd Iwerddon yn awyddus iawn bod O’Driscoll yn gorffen ei yrfa gyda thlws, ac yn yr un modd bydd bois Leinster yn dyheu am iddo orffen ei yrfa gyda Chwpan Heineken.
Bydd Wilkinson yn gywir fel arfer at y pyst, ond Leinster aiff â hi o drwch blewyn ar lan y Med.